Archif misol : Chwefror 2015

Oriel: Cylch y Garn

Cylch y Garn

cylch y garn

Man cychwyn: Ger fferm Bryn Goelcerth (SH 309918)
Ar y daith: Gary, Mari, Hywel, Rhian, Ifan, Harri, Gwenno a Catrin
Amser: Dydd Mercher 18 Chwefror, 2015: 1415 – 1700
Tywydd: Sych a gwyntog
Pellter:  6 milltir

Gan ei bod hi’n hanner tymor dyma benderfynu mynd am dro i gornel o’r ynys ‘da ni heb ymweld â hi eto, a diolch i luniau hyfryd Ian Morris Jones o’r Ladis Wen roedd pawb am fynd i weld y colofnau arbennig yma.

Ar ôl gyrru trwy pentref Llanfair-yng-Nghornwy a pharcio cyn cyrraedd fferm Bryn Coelcerth, dyma gymryd y llwybr tuag at fferm Mynachdy – peidiwch â phoeni bod yr arwydd yn dweud “Private Road” gan fod y llwybr yn croesi cowt y fferm yr ochr draw i’r parlwr godro.

Mae’n fferm anferth gyda tua 650 o wartheg godro felly mae’n bur debyg y cewch chi gwmni ar y rhan cyntaf o’ch taith heibio i’r parlwr ac allan am Drwyn y Gader … peidiwch a bod ofn! Dilynwch y traciau heibio i gefn y parlwr gyda’r ty fferm tu ôl i chi ond peidiwch a cholli’r arwydd am y llwybr sy’n arwain am yr arfordir.

Gallwch weld y Ladis Wen o’r cae cyntaf, ond peidiwch ac anelu amdanynt gan fod y llwybr yn troi tua’r gogledd ddwyrain gan godi ar hyd y caeau cyn troi tua’r arfordir unwaith eto a disgyn tuag at Lwybr Arfordirol ger simdde’r gwaith copr.

Mae cysgod y simdde yn le perffaith am bicnic wrth edrych allan tuag at Ynysoedd y Moelrhoniaid i’r gogledd ddwyrain a Maen y Bugail i’r gogledd orllewin. Mae Maen y Bugail yn un graig fawr sy’n edrych dros clwstwr o greigiau llai – yn union fel bugail yn edrych dros ei braidd.

Ac yn ôl Bedwyr Rees, cyflwynydd y rhaglen wych Arfordir Môn ar S4C, mae tarddiad enwau Biggal, sy’n un o Ynysoedd y Scilly a Beagle’s Rock a Beagle’s Point yng Nghernyw yr un peth yn union â Maen Bugail.

Wrth barhau’r â’r daith tua’r dwyrain, mae’r llwybr yn mynd heibioi’r Ladis Wen, sef meini cafodd eu codi gan y Mersey Docks and Harbour Board yn y 1860au. Mae dau o’r meini ar y tir gyda thrydydd ar Faen y Bugail ac roeddent wedi eu codi er mwyn bod o gymorth i forwyr allu hwylio heibio i greigiau tywyllodrus Maen y Bugail.

Ar ôl pasio’r Ladis, mae’r llwybr yn parhau ar hyd yr arfordir tuag at Gwarchodfa Natur Cemlyn, ond cyn cyrraedd Hen Borth, mae angen gadael Llwybr yr Arfordir er mwyn troi yn ôl tuag at Hen Felin ac ail ymuno â llwybrau fferm Mynachdy.

 

Oriel: Cylchdaith Sannan

 

Cylchdaith Sannan

sannan
Man cychwyn
: Maes Parcio Canolfan Ymwelwyr Llyn Alaw (SH 373855)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Sadwrn 14 Chwefror, 2015: 1500 – 1715
Tywydd: Sych … ond gwlyb o dan draed
Pellter:  6 milltir

Penderfyniad munud olaf oedd y daith gerdded yma felly yn hytrach ‘na cherdded rhan o’r Llwybr Arfordirol dyma ddewis un o Gylchdeithiau’r Seintiau sydd yn fyrach ac felly’n haws i’w gwblhau cyn i olau dydd ddiflannu – rhywbeth pwysig i’w ystyried yn ystod mis Chwefror!

Mae dau o Gylchdeithiau’r Seintiau yn cychwyn ger Canolfan Ymwelwyr Llyn Alaw … neu’r hyn sy’n cael ei alw’n “Ganolfan Ymwelwyr”, gan mai cwt pren gyda’i ffenestri wedi’i chwalu ydi’r “Ganolfan” bondigrybwyll erbyn hyn … ond o leia’ mae’n le cyfleus i barcio’r car.

Wrth adael y maes parcio mae ‘na arwydd sy’n dangos mai troi i’r dde sydd ei angen ar gyfer Cylchdaith Sannan ac ymlwybro i lawr y lôn fechan. Gan mai cerdded y daith mewn cyfeiriad clocwedd oeddem ni, roedd angen anwybyddu’r arwydd llwybr i’r dde cyn cyrraedd Bodnolwyn Wen a pharhau heibio i Caergwrli a Bryn Sannan cyn troi ar hyd y llwybr gerdded ger bwthyn Bronwen.

Mae’r llwybr yn crwydro ar draws gaeau Bodnolwyn Groes ac os edrychwch tua’r gogledd ar ôl pasio’r ty fferm mae modd gweld cromlech Bedd Branwen … mae’n haws fyth os ‘da chi wedi cofio’ch binocwlars (!) … ond yn anffodus nid oes mynediad cyhoeddus i’r gromlech bellach.

Ar ôl croesi Afon Alaw a chyrraedd caeau Hen Bont mae’n bosib mynd ar goll gan fod fferm Hen Bont wedi ffensio’n gymharol ddiweddar ac mae’n anodd gweld fod y llwybr yn croesi’r cowt … ond wedi dweud hynny, roedd y ffermwr yn ddigon clên i ddod allan a dangos y llwybr i ni!

Ar ôl croesi’r cowt a throi i’r chwith, mae’r llwybr yn troi yn syth i’r dde ac mae’n bwysig cadw i’r dde o’r gwrych er mwyn croesi’r cae a chyrraedd y lôn … peidiwch, da chi, â cherdded trwy’r gors cyn sylwi eich bod wedi mynd y ffordd anghywir ac yna gorfod cerdded yn ôl trwy’r gors!

Er nad yw’n rhan o’r gylchdaith fach yma, mae’n sicr werth ailymuno â’r llwybr wrth gamu dros y gamfa i’r chwith er mwyn ymweld ag eglwys Sant Afran, Sant Ieuan a Sant Sannan.

Mae’r eglwys yn dyddio o’r 14eg Ganrif ond dyw hi heb ei defnyddio ers 1899 a bellach yn dod o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Yr hyn sy’n rhyfeddol, i mi beth bynnag, yw cymaint o Saesneg sydd i’w weld ar y cerrig beddi o ystyried mai beddi o’r 18fed a 19fed ganrif mewn eglwys fechan yng nghanol Ynys Môn ydi rhain.

Ar ôl ymweld â’r egwlys, trowch yn ôl ar hyd y llwybr at y lôn cyn troi i’r chwith tuag at Melin Llynnon.

Mae modd cerdded ymlaen at y Felin am banad a theisen … os ‘da chi’n mynd am dro ar ôl Mawrth 28 … a ddim ar ddydd Gwener (!) … ond troi tuag adref ar hyd y llwybr ger Tyddyn Falog oedden ni yn ei wneud.

Ar ôl croesi’r caeau a cowt fferm Marian, mae’r llwybr yn cyrraedd yn ôl i bentref Elim ac mae angen troi i’r chwith hyd nes dod at y llwybr, sy’n troi i’r dde heibio i fferm Glanalaw ac ar draws y caeau yn ôl i faes parcio Llyn Alaw.