Pwy yda ni?

Dechreuodd y blog wrth i griw o ffrindiau o Sir Fôn osod her i ni’n hunian o gwblhau’r llwybr 125 milltir o hyd sy’n amgylchynu Ynys Môn, sef Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn ystod 2012.

Wrth gwrs, cyn estyn am y sannau trwchus, y ‘sgidiau cerdded a’r gôt law, y peth cyntaf oedd angen ei greu oedd blog, a byddwn yn diweddaru’r blog yma gyda manylion o’n anturiaethau ar wahanol cymalau’r daith ac y rhannu’n lluniau, ein profiadau a’n argraffiadau.

Ac er na lwyddom ni i gwblhau’r her o fewn blwyddyn … ac hyd yn hyn, mae’r her yn dal i sefyll … mae’r blog yn parhau i gofnodi’n teithio cerdded ar hyd a lled Ynys Môn!

Byddwn wrth ein boddau i glywed gan unrhyw un sydd eisiau rhannu eu profiadau nhw o gerdded llwybr godidog yr Ynys.

Teulu Thomas a Teulu Pritchard ar draeth Rhoscolyn (Megan sy’n cymryd y llun!) ar ddiwrnod cyntaf 2012

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *