Archif y blog

Oriel: Cylchdaith Rhoscolyn

Teulu arall …

Mae’n edrych yn debyg bod ‘na deulu arall yn barod i dderbyn yr her hefyd!

Cylchdaith Rhoscolyn

Man cychwyn: Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn (SH 268 757)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno
Amser: Dydd Sul 08 Ionawr: 1500 – 1620
Tywydd: Cymylog
Pellter: 5 milltir (2½ filltir ar hyd y llwybr)

Felly dyma fwrw ati efo’r cymal cyntaf o Prosiect 2012 a gan bo fi wedi fy nethol fel team leader Teulu Pritchard fi oedd â’r fraint o ddewis pa ran o’r llwybr oedd yn cael ei gerdded gyntaf.

Gyda 125 milltir o lwybr i’w droedio, dyma feddwl mai’r lle gorau i ni gychwyn fyddai ar y stepen drws ac ar lwybr ‘da ni, fel teulu, wedi ei droedi sawl tro, sef y cymal o Eglwys Santes Gwenfaen yn Rhoscolyn tuag at Bwa Du ac ar hyd yr arfordir yr holl ffordd i draeth Rhoscolyn.

Wrth gwrs, y peth gorau am ddewis y darn yma o’r llwybr yw bod modd gorffen y daith arbennig yma yn nhafarn y White Eagle!

Mae’r Teulu Pritchard yn cerdded y rhan yma o’r llwybr o leiaf dwywaith y mis a’r tro diwethaf i ni ei throedio oedd yn ystod y gwynt a’r glaw ar brynhawn Nos Calan, ond er eu bod nhw’n byw mor agos, doedd y Teulu Thomas erioed wedi bod ar hyd y llwybr arbennig yma.

Cyn cychwyn ar y daith, mae’n rhaid cael ychydig bach o hanes yr eglwys a’i henw … be ‘da chi’n feddwl “nagoes“?

Merch Pawl Hen o Fanaw oedd Gwenfaen ac, yn ôl y chwedl, llwyddodd i ddianc rhag y derwyddon oedd yn ei herlid trwy ddringo creigiau Rhoscolyn. Yn anffodus iddi hi, fe ddaeth y llanw i mewn, ond cafodd ei chludo oddi yno gan angylion, a dyna pam y gelwir y bae yn Porth Saint.

Rwan eich bod chi’n gwybod bach o hanes yr eglwys, gallwch gerdded yn eich blaenau tuag at fferm Tywirdeen lle mae’r llwybr yn eich tywys ar hyd y caeau ac allan tuag at Bwa Gwyn a Bwa Du.

Heibio i’r ddau fwa mae cofeb i Tyger y ci dewr lwyddodd i achub bywyd pedwar o longwyr ar ôl i’w llong ddryllio yn erbyn creigiau Maen Piscar. Er achub y llongwyr, bu’r ci bach farw, ond er mwyn dangos ei werthfawrogiad, fe dalodd capten y llong am gofeb i’r ci gyda’r geiriau TYGER, September 17th, 1819.

Ymlaen tuag at Porth Gwalch mae Ffynnon Gwenfaen, sef ffynnon hynafol syd wedi ei suddo i’r tir gyda sedd ym mhob cornel. Credir fod modd gwella salwch meddwl tryw daflu dwy garreg wen i’r pwll dŵr yma.

Beth bynnag, dyna ddigon o wers hanes am y tro! Ar ôl esgyn i frig y copa ger cwt Gwylwyr y Glannau mae’r llwybr yn disgyn yn ôl i lawr trwy’r caeau ac heibio i’r tai mawr crand at lan y môr Rhoscolyn.

Ar ôl cyraedd y traeth, dim ond cam a naid sydd i fynd nes bo’r peint cyntaf ‘na yn cael ei dollti ar far y White Eagle … mynhewch!

Prosiect 2012

Wel, mae’n rhywbeth ‘da ni, fel teulu, wedi bod yn ystyried ei gwblhau ers tro byd ond dim ond pan cawsom ni’r neges yma gan Ceri yn gofyn os oedden ni’n “barod am her” y gwnaethpwyd unrhywbeth am y sefyllfa!

Yr her mae Ceri’n sôn amdano – yr hyn ‘da ni … wel, hi … wedi’i alw yn Prosiect 2012 – yw bod Teulu Pritchard a Teulu Thomas yn cwblhau’r llwybr 125 milltir o hyd sy’n amgylchynu Ynys Môn, sef Llwybr Arfordirol Ynys Môn.

Wrth gwrs, cyn estyn am y sannau trwchus, y ‘sgidiau cerdded a’r gôt law, y peth cyntaf nes i oedd bwrw ati i greu blog – rhywbeth roedd gweddill y criw yn ei weld yn beth digon od i’w wneud, ond i mi, dyma oedd y peth naturiol i’w wneud siwr iawn!

Byddwn yn diweddaru’r blog gyda manylion o’n anturiaethau ar wahanol cymalau’r daith ac y rhannu’n lluniau, ein profiadau a’n argraffiadau a byddwn ni wrth ein boddau i gael clywed gan unrhyw un sydd am rannu eu profiadau nhw o’r llwybr hefyd!