Archif y blog

Cylchdaith Cemlyn

cemlyn-os

Man cychwyn: Maes Parcio ger Tyddyn Sydney (SH 33615 93123)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Sul 18 Medi, 2016: 1400 – 1530
Tywydd: Sych
Pellter:  4 milltir

Gyda’r ddau ohonnom wedi bod yn brysur trwy’r wythnos, dyma benderfynnu wfftio’r gwaith ty a mynd am dro gan bod y tywydd mor ffafriol! Ond gan ei fod yn benderfyniad munud olaf dyma ddewis cylchdaith gymharol rhwydd a chymharol fyr o amgylch Cemlyn.

Er mwyn cyrraedd y man cychwyn mae angen troi gyferbyn â thafarn y Douglas Arms yn Tregele a gyrru am tua milltir a hanner cyn gweld arwydd i’r maes parcio ar y dde.

Mae’r tir yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn ystod misoedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf nid oes modd cerdded ar hyd y sarn ar lan y lagŵn gan fod adar yn nythu.

Mae sawl rhywogaeth o adar prin yn ymweld â’r lagŵn hyfryd yma gyda Môr-wennol y Gogledd (Arctic Tern), sy’n ymddangos ar logo Llwybr Arfordirol Ynys Môn, yn ymwelydd cyson ynghŷd â’r Môr-wennol Bigddu (Sandwich Tern) a’r Môr-wennol Gyffredin (Common Tern).

Mae’r daith ar hyd y sarn yn anoddach na’r disgwyl oherwydd y graean bras ond peidiwch a phoeni gan mai dyma ddarn anoddaf y daith!

Ar ochr draw y sarn mae ‘na dŷ sy’n llechu tu ôl i furiau uchel. Bryn Aber oedd tŷ’r naturiaethwr, Capten Vivian Hewitt, symudodd i’r ardal yn y 1930au gan brynnu llawer o’r tir o gwmpas y tŷ sydd bellach yn rhan o’r warchodfa natur.

Roedd gan Gapten Hewitt ddiddordeb mawr mewn adar ac yn ogystal â chodi’r argae cyntaf i greu lagŵn. Llwyddodd i ddenu adar y môr i’r warchodfa ond roedd o hefyd am ddenu adar llai felly cododd furiau uchel o amgylch Bryn Aber er mwyn gwarchod yr ardd rhag y gwyntoedd cryf.

Er mwyn parhau ar hyd llwybr yr arfordir mae angen croesi’r bont fechan a throi i’r dde allan o’r ail faes parcio tuag at Drwyn Cemlyn, ond mae modd dilyn llwybr i’r chwith tuag at bentref Llanfairynghornwy os am osgoi’r arfordir.

Cyn cyrraedd y trwyn, ac ar ôl pasio’r cofeb i gofio’r Bâd Achub cyntaf ar Ynys Môn, mae’r llwybr yn troi i’r chwith, trwy giât mochyn, tuag at Craig yr Iwrch.

Mae’r dŵr o amgylch Craig yr Iwrch yn hafan i forloi ac i ddolffiniaid … ond yn anffodus, doedd na’r un ohonnynt i’w gweld ar y diwrnod yma!

mona-antiqua-restaurataGer Hen Borth mae modd gadael llwybr yr arfordir a throi tuag at fferm Ty’n Llan lle mae eglwys Sant Rhwydrus – un o eglwysi mwyaf anghysbell Ynys Môn, os nad Cymru.

Yn ôl Henry Rowlands, rheithor eglwys Llanidan, yn ei lyfr Mona Antiqua Restaurata: An Archaeological Discourse on the Antiquities, Natural and Historical, of the Isle of Anglesey, the Antient Seat of the British Druids a gyhoeddwyd yn 1723, mab Brenin Connacht oedd Rhwydrus oedd wedi teithio draw i Gymru ar yr un pryd â Rhuddlad, merch Brenin Leinster.

Cafodd yr eglwys cyntaf ei hadeiladu yma yn y 6ed ganrif gyda’r eglwys bresennol yn dyddio o’r 12fed ganrif ac yn un o’r eglwysi prin ar yr ynys sy’n dod o’r cyfnod cyn y diwygiad Protestanaidd.

Ym mynwent yr egwlys mae dau fedd sydd o ddiddordeb. Yma claddwyd corff Capten Christen Osuldsen o Norwy a foddwyd pan ddryllwyd ei long, y Thomas Humphries  ym mis Ionawr 1867 tra’n cludo halen o Lerpwl i Efrog Newydd.

Gerllaw mae bedd Pilot Officer Vivian Weston Parry,un o’r prin feddi yn y fynwent sy’n dyddio o’r 20fed ganrif.

Cafodd P/O Parry ei urddo â’r Distinguished Flying Cross yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra’n ynniwr gyda 150 Squadron. Bu farw ym mis Medi 1942 pan bu rhaid i’w awyren, oedd yn dychwelyd o hediad fomio dros Bremen, Yr Almaen, lanio ar frys yn Sir Efrog.

Ar ôl dychwelyd i’r llwybr arfordirol, mae’r llwybr yn cwrdd â diweddglo taith Cylch y Garn ger Hen Borth cyn ymuno â’r ffordd lle mae angenn troi i’r chwith a cherdded yn ôl tua Gwarchodfa Cemlyn.

Dic Evans, arwr y don

DSC_3988Ar ôl ymweld â Moelfre dros y Sul, a thynnu lluniau’r cerflun trawiadol o Dic Evans ger orsaf y Bad Achub, dwi’n credu fod hi’n werth nodi pwy yn union oedd yr arwr lleol yma.

Dic Evans, Moelfre, yw un o’r ychydig forwyr i ennill medal aur yr RNLI ddwywaith.

Roedd dŵr halen yn rhedeg trwy ei wythiennau gyda’i deidiau, ei dad a’i ewyrth i gyd yn aelodau o Fad Achub Moelfre ac ym 1954, ar ôl i’w ewyrth ymddeol, cafodd ei benodi’n gocsyn ar Fad Achub Moelfre.

Pedair mlynedd yn ddiweddarach cafodd Dic ei urddo â’i fedal aur cyntaf am achub criw llong y Hindlea. Ar 27 Hydref 1959 gyda gwyntoedd o dros 100 m.y.a. roedd yr Hindlea – llong 500 tunell – mewn peryg mawr o chael ei llusgo ar y creigiau ger Moelfre wrth iddi methu’n glir a dal ei hangor yn y gwynt.

Dim ond Dic a thri aelod arall o griw oedd wedi llwyddo i gyrraedd cwt y bad achub gan fod y llinellau ffôn wedi eu difrodi gan y storm a bu rhaid i aelod o griw y glannau fynd allan ar y môr yn y bad achub am y tro cyntaf.

Am awr a hanner, brwydrodd Dic gyda’r moroedd gwyllt wrth i’r Hindlea siglo’n frawychus o o ochr i ochr. Unwaith i’r criw dderbyn y gorchymyn i adael y llong, anwybyddodd Evans yr amgylchiadau erchyll i symud mor agos â phosib i’r llong a dwyn perswâd ar y criw i neidio i’r bad achub.

Yn ogystal â cheisio osgoi yr Hindlea, oedd yn cael ei thaflu o gwmpas gan y tonnau enfawr, cafwyd un eiliad ofnadwy pan dynnwyd y bad achub o dan y tonnau nes bod ei mast o dan ddŵr. Bu rhaid i Dic symud y bad achub o dan gysgod yr Hindlea ar 10 achlysur cyn gallu achub yr wyth aelod o griw, a 35 munud ar ôl i’r olaf neidio i’r bad achub, tarodd yr Hindlea yn erbyn y creigiau a’i chwalu’n deilchion.

Llwyddodd Dic i ennill ei ail fedal aur saithn mlynedd yn ddiweddarach ar ôl bod yn rhan o’r ymgyrch i achub criw y llong Groegaidd, Nafsiporos, oedd wedi colli pwer ac yn rhedeg yn hynod o agos at Ynysoedd y Moelrhoniaid.

Er i’r bad achub cael ei difrodi, llwyddodd Dic a’r criw o Murley Francis, Hugh Owen, Evan Owen, Huw Jones, William Maynard Davies, Capt David Jeavons a’i fab ei hun, David Evans, i achub 10 o’r criw gyda bad achub Caergybi yn achub pump aelod arall.

Pan ddaeth i ymddeol ym 1970, roedd bad achub Moelfre wedi achub 281 o fywydau yn ystod ei 50 mlynedd o wasanaeth.

Yn ogystal â’i ddwy fedal aur, cafodd Dic ei urddo â Medal Arian y Frenhines am ddewrder ar y môr ym 1960 a Medal yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1969. Cafodd ei urddo’n aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978.

Gwaith Brics Porth Wen

Gwaith brics Porth Wen

Gwaith brics Porth Wen

Ar y daith gerdded rhwng Porth Amlwch a Chemaes mae modd gweld un o safleoedd diwydianol hanesyddol Ynys Môn wrth basio hen waith brics Porth Wen.

Mae’n warthus i feddwl, er fy mod wedi byw ar yr Ynys am y rhan helaeth o fy mywyd … ac wedi byw am gyfnod yng Nghemaes, cwta dwy filltir o Borth Wen … nad oeddwn i yn ymwybodol o fodolaeth yr hen waith brics!

Felly dyma fwrw ati i ddarganfod mwy am y safle er mwyn addysgu fy hun … ac Ifan, sydd wedi bod yn holi am y lle ers ddydd Gwener!

Sefydlwyd y gweithle yn y 1850au gan fod cyflenwad anferth o fwyn silica yn y graig cwarts gerllaw a chan fod brics silica yn gallu gwrthsefyll gwres tanbaid, roedd ‘na alw mawr amdanynt gan y diwydiant dur er mwyn adeiladu ffwrnesi ac odynau.

Mae’n rhaid talu teyrnged i ddyfeisgarwch pobl yr oes Fictoraidd lwyddodd i harnesu grym disgyrchiant i brosesu’r gwaith. Roedd y mwyn yn cael ei gloddio ar y penrhyn uwchben y gwaith cyn disgyn i lawr i droed y clogwyn lle roedd y brics yn cael eu siapio, eu sychu a’u tanio yn yr odynau.

Yn wahanol i Fynydd Parys, lle roedd y copr yn cael ei gludo i Borth Amlwch, penderfynwyd adeiladu harbwr fechan ym Mhorth Wen er mwyn cludo’r brics yn syth allan o’r gweithle.

Ond, er safon y brics, roedd sawl perchennog yn gwrthod caniatau i’w llongau angori yn yr harbwr oherwydd y peryglon o fod mewn harbwr mor fychan pan fo tywydd garw’n bygwth.

Erbyn dechrau’r Rhyfel Mawr roedd safon y gwaith wedi dirywio hefyd – yn ôl y chwedl leol, roedd hyn oherwydd anghydfod rhwng perchennog y gwaith a’i giaffar – a chyn diwedd 1914, roedd y gwaith wedi cau.

Bron i gan mlynedd yn ddiweddarach, mae sgerbwd y gweithle yn parhau i frwydro yn erbyn yr elfennau a chyda’r bae yn llawn o hen frics sy’n prysur erydu’n ôl i’w cyflwr gwreiddiol, mae’r olygfa yn un hynod o drawiadol sydd werth pob cam o’r daith o Borth Amlwch!