Archif y blog

Swtan i Penrhyn

barclodiad-osMan cychwyn: Swtan (SH 31731 73177)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Sadwrn 13 Ionawr, 2017: 1300 – 1500
Tywydd: Sych (ond gwlyb o dan droed!)
Pellter: 6 milltir

Mae hi’n talu i gael ffrindiau da ac felly ar ôl holi Gwen am yr hawl i adael un car yn fferm Penrhyn tra’n cerdded o Swtan i lawr am y de, cawsom gynnig lifft i gychwyn ein taith … ond yn well na hynny, cawsom addewid panad ar ôl cyrraedd y terfyn hefyd!

Roeddem wedi dewis ymuno â’r llwybr yn gymharol agos at fwthyn Swtan; amgueddfa fechan sy’n enghraifft o fwthyn gwellt o’r 16eg ganrif ac sy’n werth ymweld â hi a gallwch fwynhau panad a chacen hyfryd yn y caffi gerllaw cyn cychwyn ar eich taith!

Er yn ddiwrnod sych a braf, roedd y tir yn wlyb iawn mewn mannau yn dilyn wythnos digon stormus o dywydd ac yn ogystal â’r mwd, roedd ewyn y môr fel swigod dŵr golchi llestri yn chwythu dros y creigiau a’r llwybr.

Wrth droi i’r chwith ar ôl camu dros y gamlas mae Porth Swtan i’w gweld yn amlwg. Credir fod tarddiad yr enw Swtan yn dod o’r gair Cymraeg am bysgod “whiting” ond er fod pob Cymro Cymraeg lleol yn gwybod yn union lle mae Porth Swtan, mae’n bur debyg mai “Church Bay” fyddai’r enw mae hyd yn oed y Cymro mwyaf teyrn yn ei ddefnyddio ar y bae.

Daw’r enw Saesneg o’r arferiad gan longwyr o Loegr o ddefnyddio tirnodau amlwg er mwyn dynodi llefydd ar hyd yr arfordir. Gyda thŵr eglwys Rhydwyn i’w weld yn glir o’r môr ger Swtan, roedd yn enw amlwg i’w roi ar y bae prydferth yma.

Yn anffodus, fel y gwelwn ymhellach ymlaen ar y daith, nid “Church Bay” ydi’r unig enw Saesneg i ddod yn enw naturiol gan y Cymry Cymraeg ar yr Ynys ac mae ambell i dŷ sydd wedi eu nodi gydag enwau Cymraeg ar y map Ordanance Survey wedi cael enw newyd Saesneg erbyn heddiw.

Mae’r llwybr yn un amlwg ac yn un rhwydd iawn i’w ddilyn wrth iddo ymdroelli ar hyd ffin gorllewinol y caeau, mor agos a phosib i’r arfordir ei hun, cyn esgyn a disgyn o fae i fae.

Yn wir, daw’r unig ddryswch wrth adael traeth Porth Trefadog. Mae’r llwybr yn arwain at grisiau i lawr i’r traeth ond does dim arwydd ar ben deheuol y traeth eich bod angen cymryd y lôn tu ôl i’r tŷ yn hytrach nac anelu am y creigiau.

Wedi tua 500m mae’r llwybr yn cyrraedd bwthyn Tyn Tywyn, sydd bellach wedi cael enw newydd; Seashore Cottage, ac o fewn tafliad carreg i’r bwthyn mae un o draethau mwyaf poblogaidd Ynys Môn.

Mae’n gywilydd mawr gen i gyfaddef nad oeddwn i hyd yn oed yn ymwybodol mai Porth Tywyn Mawr oedd yr enw ar y traeth rwyf wedi ei hadnabod erioed fel “Sandy Beach”. Mae’r enw Saesneg yma’n cael ei ddefnyddio, am wn i, gan fod Maes Carafanau Sandy Beach wedi ei hadeiladu ar y caeau drws nesaf i’r traeth.

Mae Llwybr yr Arfordir yn torri ar draws y maes carafanau ond peidiwch a chymryd y llwybr i’r chwith sy’n anelu am y siop a’r caffi … oni bai eich bod eisiau panad bach sydyn … ond cymrwch y llwybr sydd yn mynd syth yn ei blaen heibio i’r carafanau.

Er eu bod yn anodd eu gweld, mae arwyddion glas a melyn llwybr yr Arfordir i’w cael ar y maes carafanau ac yn eich arwain yn ôl allan tuag at y llwybr cyhoeddus gan anelu amFaes Carafanau Penrhyn.

Yma daeth ein taith ni ar yr arfordir i ben gan ein bod wedi cael addewid o banad gan Wyn a Gwen yn fferm Penrhyn felly yn hytrach na dilyn y llwybr heibio i Penrhyn, roedden ni yn torri ar draws y maes carafanau ac anelu am y tŷ fferm a thepot o de a thafell o fara brith!

 

 

 

Barclodiad y Gawres

barclodiad-osMan cychwyn: Surf Cafe (SH 31731 73177)
Ar y daith: Gary, Mari, Ifan a Gwenno
Amser: Dydd Mawrth 25 Hydref, 2016: 1400 – 1530
Tywydd: Sych
Pellter:  4½ milltir

Er ei bod hi’n hanner tymor mae pawb mor brysur ag erioed felly dim ond taith fer oedd y pedwar ohonnom yn galu ei gwblhau. Er hyn, roedd pawb yn benderfynol o gael ychydig o awyr iach a chyfle i ymestyn y coesau!

Mae brecwast hyfryd yn golygu fod y Surf Cafe yn le gwych i gychwyn (neu gorffen) y gylchdaith yma, ond yn anffodus doedd dim amser i ni allu lenwi’n boliau heddiw.

Ar ôl cerdded i lawr y lôn tuag at y traeth mae angen troi i’r chwith a cherdded ar hyd Traeth Crigyll heibio Creigiau’r Odyn a Braich yr Orsedd tuag at Traeth Llydan.

Os yw’r llanw’n uchel, mae modd cyrraedd Traeth Llydan wrth gerdded i lawr y brif stryd, ond mae’n llawer brafiach cerdded ar hyd y tywod!

Wrth gyrraedd Traeth Llydan mae modd gweld Barclodiad y Gawres, sef nôd y gylchdaith yma, yn y pellter.

Mae’r llwybr yn un cymharol rhwydd i’w ddilyn ar hyd dywod meddal Traeth Bychan gyda thri clwstwr o greigiau yn dynodi Porth y Tywod, Porth Sûr a Phorth Nobla.

Ar ôl cyrraedd y twyni ben pellaf Porth Nobla mae angen gadael y traeth a chwilio am arwydd Llwybr Maelog sy’n nodi fod y llwybr yn troi tua’r dde o amgylch y penrhyn tuag at Barclodiad y Gawres.

Barclodiad y Gawres yw’r siambr gladdu Neolithig fwyaf yng Nghymru ac os am ymweld â’r siambr ei hun, mae’n rhaid trefnu tywysydd, sydd ar gael ar benwythnosau ac ar Ŵyl y Banc rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref. Er mwyn trefnu hynny mae’n rhaid gwneud ymholiadau yn siop Wayside Stores yn Llanfaelog (01407 810153) … yn amlwg mae’n well gwneud hynny cyn cychwyn ar y daith!

Yn ôl y chwedl, cafodd y domen ei chludo i Fôn mewn ffedog cawres ond wrth geisio dychmygu pobl Oes y Cerrig yn adeiladu’r fath siambr, mae’n debyg fod y gwirionedd yn fwy syfrdanol nag unrhyw chwedl.

Ar ôl gadael y siambr, dilynwch y llwybr heibio i Borth Trecastell tuag at y lôn fawr cyn troi i’r chwith yn ôl tuag at Rhosneigr.

Yn hytrach na throedio’r un llwybr ar hyd y traeth, mae modd cerdded trwy’r twyni ar dop y traeth yr holl ffordd yn ôl i ochr y pentref o Draeth Llydan cyn cerdded trwy’r pentref yn ôl at y caffi.

Cylchdaith Cemlyn

cemlyn-os

Man cychwyn: Maes Parcio ger Tyddyn Sydney (SH 33615 93123)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Sul 18 Medi, 2016: 1400 – 1530
Tywydd: Sych
Pellter:  4 milltir

Gyda’r ddau ohonnom wedi bod yn brysur trwy’r wythnos, dyma benderfynnu wfftio’r gwaith ty a mynd am dro gan bod y tywydd mor ffafriol! Ond gan ei fod yn benderfyniad munud olaf dyma ddewis cylchdaith gymharol rhwydd a chymharol fyr o amgylch Cemlyn.

Er mwyn cyrraedd y man cychwyn mae angen troi gyferbyn â thafarn y Douglas Arms yn Tregele a gyrru am tua milltir a hanner cyn gweld arwydd i’r maes parcio ar y dde.

Mae’r tir yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn ystod misoedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf nid oes modd cerdded ar hyd y sarn ar lan y lagŵn gan fod adar yn nythu.

Mae sawl rhywogaeth o adar prin yn ymweld â’r lagŵn hyfryd yma gyda Môr-wennol y Gogledd (Arctic Tern), sy’n ymddangos ar logo Llwybr Arfordirol Ynys Môn, yn ymwelydd cyson ynghŷd â’r Môr-wennol Bigddu (Sandwich Tern) a’r Môr-wennol Gyffredin (Common Tern).

Mae’r daith ar hyd y sarn yn anoddach na’r disgwyl oherwydd y graean bras ond peidiwch a phoeni gan mai dyma ddarn anoddaf y daith!

Ar ochr draw y sarn mae ‘na dŷ sy’n llechu tu ôl i furiau uchel. Bryn Aber oedd tŷ’r naturiaethwr, Capten Vivian Hewitt, symudodd i’r ardal yn y 1930au gan brynnu llawer o’r tir o gwmpas y tŷ sydd bellach yn rhan o’r warchodfa natur.

Roedd gan Gapten Hewitt ddiddordeb mawr mewn adar ac yn ogystal â chodi’r argae cyntaf i greu lagŵn. Llwyddodd i ddenu adar y môr i’r warchodfa ond roedd o hefyd am ddenu adar llai felly cododd furiau uchel o amgylch Bryn Aber er mwyn gwarchod yr ardd rhag y gwyntoedd cryf.

Er mwyn parhau ar hyd llwybr yr arfordir mae angen croesi’r bont fechan a throi i’r dde allan o’r ail faes parcio tuag at Drwyn Cemlyn, ond mae modd dilyn llwybr i’r chwith tuag at bentref Llanfairynghornwy os am osgoi’r arfordir.

Cyn cyrraedd y trwyn, ac ar ôl pasio’r cofeb i gofio’r Bâd Achub cyntaf ar Ynys Môn, mae’r llwybr yn troi i’r chwith, trwy giât mochyn, tuag at Craig yr Iwrch.

Mae’r dŵr o amgylch Craig yr Iwrch yn hafan i forloi ac i ddolffiniaid … ond yn anffodus, doedd na’r un ohonnynt i’w gweld ar y diwrnod yma!

mona-antiqua-restaurataGer Hen Borth mae modd gadael llwybr yr arfordir a throi tuag at fferm Ty’n Llan lle mae eglwys Sant Rhwydrus – un o eglwysi mwyaf anghysbell Ynys Môn, os nad Cymru.

Yn ôl Henry Rowlands, rheithor eglwys Llanidan, yn ei lyfr Mona Antiqua Restaurata: An Archaeological Discourse on the Antiquities, Natural and Historical, of the Isle of Anglesey, the Antient Seat of the British Druids a gyhoeddwyd yn 1723, mab Brenin Connacht oedd Rhwydrus oedd wedi teithio draw i Gymru ar yr un pryd â Rhuddlad, merch Brenin Leinster.

Cafodd yr eglwys cyntaf ei hadeiladu yma yn y 6ed ganrif gyda’r eglwys bresennol yn dyddio o’r 12fed ganrif ac yn un o’r eglwysi prin ar yr ynys sy’n dod o’r cyfnod cyn y diwygiad Protestanaidd.

Ym mynwent yr egwlys mae dau fedd sydd o ddiddordeb. Yma claddwyd corff Capten Christen Osuldsen o Norwy a foddwyd pan ddryllwyd ei long, y Thomas Humphries  ym mis Ionawr 1867 tra’n cludo halen o Lerpwl i Efrog Newydd.

Gerllaw mae bedd Pilot Officer Vivian Weston Parry,un o’r prin feddi yn y fynwent sy’n dyddio o’r 20fed ganrif.

Cafodd P/O Parry ei urddo â’r Distinguished Flying Cross yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra’n ynniwr gyda 150 Squadron. Bu farw ym mis Medi 1942 pan bu rhaid i’w awyren, oedd yn dychwelyd o hediad fomio dros Bremen, Yr Almaen, lanio ar frys yn Sir Efrog.

Ar ôl dychwelyd i’r llwybr arfordirol, mae’r llwybr yn cwrdd â diweddglo taith Cylch y Garn ger Hen Borth cyn ymuno â’r ffordd lle mae angenn troi i’r chwith a cherdded yn ôl tua Gwarchodfa Cemlyn.

Oriel: Cylchdaith Cemlyn

Cylch y Garn

cylch y garn

Man cychwyn: Ger fferm Bryn Goelcerth (SH 309918)
Ar y daith: Gary, Mari, Hywel, Rhian, Ifan, Harri, Gwenno a Catrin
Amser: Dydd Mercher 18 Chwefror, 2015: 1415 – 1700
Tywydd: Sych a gwyntog
Pellter:  6 milltir

Gan ei bod hi’n hanner tymor dyma benderfynu mynd am dro i gornel o’r ynys ‘da ni heb ymweld â hi eto, a diolch i luniau hyfryd Ian Morris Jones o’r Ladis Wen roedd pawb am fynd i weld y colofnau arbennig yma.

Ar ôl gyrru trwy pentref Llanfair-yng-Nghornwy a pharcio cyn cyrraedd fferm Bryn Coelcerth, dyma gymryd y llwybr tuag at fferm Mynachdy – peidiwch â phoeni bod yr arwydd yn dweud “Private Road” gan fod y llwybr yn croesi cowt y fferm yr ochr draw i’r parlwr godro.

Mae’n fferm anferth gyda tua 650 o wartheg godro felly mae’n bur debyg y cewch chi gwmni ar y rhan cyntaf o’ch taith heibio i’r parlwr ac allan am Drwyn y Gader … peidiwch a bod ofn! Dilynwch y traciau heibio i gefn y parlwr gyda’r ty fferm tu ôl i chi ond peidiwch a cholli’r arwydd am y llwybr sy’n arwain am yr arfordir.

Gallwch weld y Ladis Wen o’r cae cyntaf, ond peidiwch ac anelu amdanynt gan fod y llwybr yn troi tua’r gogledd ddwyrain gan godi ar hyd y caeau cyn troi tua’r arfordir unwaith eto a disgyn tuag at Lwybr Arfordirol ger simdde’r gwaith copr.

Mae cysgod y simdde yn le perffaith am bicnic wrth edrych allan tuag at Ynysoedd y Moelrhoniaid i’r gogledd ddwyrain a Maen y Bugail i’r gogledd orllewin. Mae Maen y Bugail yn un graig fawr sy’n edrych dros clwstwr o greigiau llai – yn union fel bugail yn edrych dros ei braidd.

Ac yn ôl Bedwyr Rees, cyflwynydd y rhaglen wych Arfordir Môn ar S4C, mae tarddiad enwau Biggal, sy’n un o Ynysoedd y Scilly a Beagle’s Rock a Beagle’s Point yng Nghernyw yr un peth yn union â Maen Bugail.

Wrth barhau’r â’r daith tua’r dwyrain, mae’r llwybr yn mynd heibioi’r Ladis Wen, sef meini cafodd eu codi gan y Mersey Docks and Harbour Board yn y 1860au. Mae dau o’r meini ar y tir gyda thrydydd ar Faen y Bugail ac roeddent wedi eu codi er mwyn bod o gymorth i forwyr allu hwylio heibio i greigiau tywyllodrus Maen y Bugail.

Ar ôl pasio’r Ladis, mae’r llwybr yn parhau ar hyd yr arfordir tuag at Gwarchodfa Natur Cemlyn, ond cyn cyrraedd Hen Borth, mae angen gadael Llwybr yr Arfordir er mwyn troi yn ôl tuag at Hen Felin ac ail ymuno â llwybrau fferm Mynachdy.

 

Oriel: Pontrhydybont i Rhosneigr

Pontrhydybont i Rhosneigr

bont-rhosneigr

Man cychwyn: Pontrhydydbont (SH 279 783)
Ar y daith: Gary
Amser: Dydd Mercher 9 Ebrill, 2014: 1115 – 1350
Tywydd: Braf … ond hynod o fwdlyd!
Pellter:  10 milltir

Gan fy mod i yn cael diwrnod i’r brenin ar ddydd Mercher, dyma benderfynu gwblhau darn o’r llwybr sydd, yn llythrennol, ar stepen drws ty ni.

Yn rhyfedd ddigon, er byw mor agos i’r darn o’r llwybr sy’n rhedeg o Bontrhydybont i Rhosneigr, dwi erioed wedi’w chrwydro o’r blaen, ac o weld y cymal cyntaf ohonni, efallai bod na reswm da pam nad oeddwn i wedi gwneud ychwaith!

Yn dilyn yr holl law dros y gaeaf ‘ma, mae’r cymal cyntaf o’r llwybr yn croesi cae fferm sy’n un o fwd a baw gwartheg, y math o fwd sy’n edrych yn ddigon cadarn … ond yr eiliad ‘da chi’n rhoi’ch pwysau i gyd ar un droed, mae’n cael ei lyncu gan y mwd!

Ar ôl goroesi’r baw, mae’r llwybr yn codi ar hyd y penrhyn ac yn arwain ar hyd y caeau tuag at amddiffynfa llifogydd Tyddyn-y-cob ger Y Fali. Mae modd troi yn ôl am Y Fali yn y fan yma a chrwydro’r llwybr o dan yr A55 a heibio i gaeau pêl-droed Parc Mwd er mwyn cwblhau cylchdaith digon hamddenol.

Ond anelu am Rhosneigr oeddwn i felly dyma godi dros y boncyn a’r ceffylau busneslud yn y cae.

Mae hi braidd yn aneglur pa bryd sydd angen troi i’r dde yn y fan hyn ond, yn y bôn, mae angen cyrraedd y gamfa a’r lôn fach sy’n arwain at fferm Glan Rhyd Isaf a’i charafanau.

Ar ôl pasio’r carafnau, mae ‘na gyfle i olchi’r baw gwartheg oddi ar eich esgidiau wrth groesi’r traeth cyn camu dros y gamfa a chroesi’r caeau unwaith eto tuag at Penrhyn-hwlad. Yn hytrach na chroesi ar draws y bae, mae angen amgylchynu’r gilfach trwy dwnel arallfydol sydd wedi’i greu gan y coed sydd, erbyn hyn, yn eu blodau.

Wrth gyrraedd diwedd y sarn, mae’n hawdd cymryd y llwybr anghywir yma gan nad yw arwyddion y Llwybr Arfordirol yn glir iawn. Mae ‘na lwybr cyhoeddus sy’n arwain i fyny heibio i fferm Ty’n y Ddôl, ond anwybyddwch y llwybr yma a dilynwch y llwybr i’r de-orllewin ar hyd yr arfordir.

Daw’r llwybr allan ger pen llain lanio maes awyr RAF Valley – yn wir, does dim modd mynd llawer agosach i’r llain lanio heb cael eich arestio!

Ar ôl colli’ch clyw wrth geisio tynnu llun awyren yn hedfan heibio, dylwch droi i’r dde a chroesi traeth Rhyd y Gari gan anelu am adeilad mawr gwyn Plas Cymyran. Mae’r llwybr yn troedio’r tir tu ôl i Blas Cymryan gan bod y traeth sy’n wynebu Ynys Cybi yn draeth preifat, ond mae’n haws croesi’r traeth os yw’r llanw allan nag ydyw ddringo’r creigiau tu ôl i’r Plas!

Mae darn difyra’r daith tu ôl i chi bellach a’r unig beth sydd at ôl yw’r daith ar draws Traeth Cymyran a Thraeth Crigyll … ond … ac mae’n “ond” pwysig, peidiwch ‘da chi a cheisio anelu’n syth am Rhosneigr ar draws y traeth.

Oni bai eich bod chi’n fodlon halio’ch trowsus dros eich pen-glin a gwlychu’n llwyr mae angen cadw i’r chwith wrth groesi Traeth Crigyll er mwyn dod at y bont sy’n croesi’r afon sy’n rhedeg ar draws y traeth ac i’r môr!

Unwaith eich bod chi dros yr afon ac ar ochr Rhosneigr o’r traeth gallwch anelu am gaffi hyfryd y Surf Café sydd uwchben y siop syrffio am banad a bechdan haeddianol!

Parc y Morglawdd i Ynys Lawd

morglawdd

Man cychwyn: Maes Parcio Parc y Morglawdd (SH 225 833)
Ar y daith: Gary, Mari ac Ifan
Amser: Dydd Sadwrn 15 Mawrth, 2014: 1315 – 1430
Tywydd: Sych a gwyntog
Pellter:  3½ milltir

Er nad oedd gennym ni llawer o amser roedden ni’n benderfynol o fynd allan am dro prynhawn ‘ma i gael ychydig bach o awyr iach, felly dyma benderfynu cerdded o Barc y Morglawdd, Caergybi i Ynys Lawd.

Di hon ddim yn daith newydd i ni o gwbwl, yn enwedig gan ei bod hi bron ar stepen y drws, ond mae hi’n ymlwybriad digon dymunol ar brynhawn Sadwrn gwyntog!

Gyda llond tŷ o deulu’n dod draw am swper, roedd angen sicrhau y bydden ni yn ôl yn y tŷ mewn pryd i’w croesawu felly yn hytrach na cherdded y gylchdaith o amgylch Mynydd Twr, dyma adael un car ym maes parcio Caffi Ynys Lawd cyn gyrru’r llall i faes parcio Parc y Morglawdd.

Mae ‘na gofeb ym Mharc y Morglawdd er cof am wyth aelod o awyrlu America fu farw pan blymiodd eu hawyren B-24 i’r ddaear ger Ynys Arw ym 1944 wrth iddynt geisio cyrraedd RAF Y Fali mewn tywydd garw.

Mae gweddillion yr awyren yn parhau i fod yn agos at y creigiau ger Ynys Cybi ond mae’r propelor wedi ei achub o’r môr a’i osod ar y garreg fel rhan o’r gofeb.

Wrth gychwyn tuag at Ynys Lawd, mae’r llwybr yn crwydro bron yn llythrenol ar hyd arfordir gogleddol Ynys Cybi gyda golygfeydd hyfryd yn ôl dros y porthladd a Thraeth Newry am orllewin Ynys Môn.

Mae’n deg dweud fod y llwybr yn esgyn yn gyflymach na’r disgwyl wrth anelu tuag at orsaf y corn niwl ar Ynys Arw, neu North Stack, ond ar ddiwrnod braf mae ‘na olygfeydd hyfryd o Ynysoedd y Moelrhoniaid, a hyd yn oed Ynys Manaw, ac, wrth gwrs, sawl llong Stenna Line ac Irish Ferries!

Cyn cyrraedd yr orsaf corn niwl mae adfail o’r hen orsaf semaphore sy’n dyddio o flynyddoedd cynnar y 19fed ganrif. Roedd yr orsaf yn un o gyfres o orsafoedd ar hyd arfordir gogledd Cymru oedd yn cael eu defnyddio i yrru negeseuon yn ôl a blaen i Lerpwl wrth i longau gyrraedd Bae Lerpwl o Fôr Iwerddon.

Ger yr orsaf corn niwl mae’r llwybr yn troi tuag at gopa Mynydd Twr ac, wrth ddilyn arwyddion Cylchdaith Cybi, mae modd dilyn llwybr dros y copa ac yn ôl i Barc y Morglawdd, ond dilyn y Llwybr Arfordirol am Ynys Lawd oedd ein bwriad ni … felly doedd dim angen esgyn yn rhy uchel!

Mae’r creigiau ar droed Mynydd Twr yn boblogaidd iawn gyda dringwyr felly mae’r darn yma o’r llwybr yn tueddol o fod yn brysur wrth i bobl gerdded i fyny o gyfeiriad meysydd parcio Ynys Lawd.

Ond wrth basio’r dringwyr a chyrraedd y mastiau radio mae’n rhy hawdd dilyn y ffordd yn syth i lawr am y caffi yn hytrach na throi i’r dde a pharhau ar hyd Llwybr yr Arfordir felly cofiwch gadw llygaid allan am yr arwyddion!

Er fod y llwybr swyddogol mymryn yn hirach na’r llwybr tarmac, mae’n sicrhau eich bod chi’n cael y golygfeydd gorau o oleudy Ynys Lawd o’r hen lecyn gwylio sydd uwchben yr ynys.

Ac ar ôl tynnu’ch lluniau mae’n amser disgyn i lawr tua’r caffi am banad a hufen iâ haeddianol!

Llyn Rhos Ddu i Falltraeth

Man cychwyn: Maes Parcio Llyn Rhos Ddu (SH 426 647)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo a Nel
Amser: Dydd Sadwrn 28 Ebrill: 1200 – 1655
Tywydd: Sych ond gyda gwynt cryf ar adegau
Pellter: 9½ milltir

Ar ôl y daith fawreddog ar hyd arfordir y gogledd ar ddechrau’r mis, roedd hi’n amlwg bod criw Crwydro wedi torri ein danedd ar y teithiau gymharol fyr a bellach yn barod am deithiau hirach.

Penderfynwyd y byddwn ni’n dychwelyd i dde’r ynys er mwyn cwblhau’r daith allan am Ynys Llanddwyn gan fod cŵn wedi eu gwahardd oddi yno rhwng 1 Mai a diwedd mis Medi … a doedden ni ddim am i Carlo a Nel gael colled, nagoedd!

Maes parcio Llyn Rhos Ddu oedd y man cychwyn – lle ddaeth y daith o’r Sŵ Môr i ben yn ôl ym mis Ionawr – a’r nod oedd cyrraedd Malltraeth a pheint yn y Joiner’s Arms mewn pryd i wylio’r sgôrs pêl-droed yn cyrraedd!

Dwi’n siwr fod pob un o’r criw ‘di bod i Ynys Llanddwyn sawl tro – er fod Ed yn trio deud bod na bron i 30 mlynedd ers iddo fod yno – ond mae’n rhaid i ni gwblhau pob cam o’r llwybr gyda’n gilydd.

A pheth arall sy’n hyfryd am gerdded y llwybr yma, ydi’r cyfle i weld a cherdded ffyrdd cyfarwydd ond ar hyd llwybrau anghyfarwydd – tydw i erioed wedi cyrraedd Traeth Llanddwyn ar hyd y llwybr o Lyn Rhos Ddu o’r blaen.

Yn wahanol i’n teithiau eraill, roedd ‘na lwyth o bobl ar yr un llwybr â ni … wel, am y rhan cyntaf o’r daith ar hyd Traeth Llanddwyn ac Ynys Llanddwyn beth bynnag … mae Llanddwyn yn le poblogaidd!

Doedden ni ddim yn rhy siwr os oedd y llwybr o amgylch Ynys Llanddwyn ei hun yn rhan swyddogol o’r Llwybr Arfordirol ond gan ei fod yn rhan mor hyfryd o’r byd dyma benderfynu gerdded draw at fythynod y peilotiaid a’r Tŵr Mawr beth bynnag.

Ar ôl gadael yr Ynys mae na ddau ddewis o lwybr i’w ddilyn tua’r gorllewin a chob Malltraeth – un ar hyd Traeth Penrhos a’r llall trwy’r goedwig – ar ôl pleidlais sydyn* fe benderfynwyd y byddwn ni yn mynd ar hyd y traeth.

Yn anffodus i ni roedd y gwynt yn dod yn syth i’n hwynebau ac roedd y tywod yn chwyrlio o’n hamgylch wrth i ni geisio cyrraedd trwyn Traeth Penrhos a’r Morfa Heli fyddai’n ein harwain yn ôl tua’r goedwig!

Yr unig ffordd i ddwyn perswâd ar y plant (a Sonia!) i beidio cwyno ac i’w sicrhau ein bod ni’n agosau at ddiwedd ein taith oedd i bwyntio at y tai gwyn yn y pellter trwy’r cwmwl tywod a’u sicrhau mai’r Joiner’s Arms oedd un o’r tai … wrth gwrs, doedden ni ddim am ddweud fod angen i ni droi yn ôl i’r goedwig am rhyw ddwy neu dair milltir arall cyn bod ni’n cyrraedd y tai gwyn!

Ar ôl gadael y twyni tywod roedd y daith trwy’r goedwig yn un digon pleserus ar hyd lonydd y Comisiwn Coedwigaeth, ac ar ôl seibiant i gael panad a bechdan … a gwagio’r tywod o’n esgidiau … dim ond y darn olaf o’r llwybr sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd fawr oedd o’n blaenau.

Ar ôl croesi Cob Malltraeth roedd tafarn y Joiner’s Arms a siop chips Malltraeth yn fanna o’r nefoedd … yn enwedig ar ôl clywed ein bod ni wedi cerdded am naw milltir a hanner … dwy filltir a hanner yn hirach nag yr oedden wedi ei feddwl!

‘Di peint o Guinness erioed wedi blasu mor neis!

* [… mae’n rhaid i mi gofnodi’n fan hyn mai Mari oedd â’r bleidlais olaf, felly hi sydd ar fai am ein taith Lawrence of Arabaidd yn syth i wyneb y gwynt a’r storm tywod ..!]

 

Teclyn ffansi Tosh

GPS Llyn Rhos Ddu i Malltraeth

GPS Llyn Rhos Ddu i Malltraeth

Yn ôl teclyn ffansi GPS Tosh, fe gerddon ni 9.7 milltir ddoe … does na’m rhyfedd fod pawb yn cwyno erbyn y diwedd felly nagoes!