Archif y blog

Cylchdaith Cemlyn

cemlyn-os

Man cychwyn: Maes Parcio ger Tyddyn Sydney (SH 33615 93123)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Sul 18 Medi, 2016: 1400 – 1530
Tywydd: Sych
Pellter:  4 milltir

Gyda’r ddau ohonnom wedi bod yn brysur trwy’r wythnos, dyma benderfynnu wfftio’r gwaith ty a mynd am dro gan bod y tywydd mor ffafriol! Ond gan ei fod yn benderfyniad munud olaf dyma ddewis cylchdaith gymharol rhwydd a chymharol fyr o amgylch Cemlyn.

Er mwyn cyrraedd y man cychwyn mae angen troi gyferbyn â thafarn y Douglas Arms yn Tregele a gyrru am tua milltir a hanner cyn gweld arwydd i’r maes parcio ar y dde.

Mae’r tir yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn ystod misoedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf nid oes modd cerdded ar hyd y sarn ar lan y lagŵn gan fod adar yn nythu.

Mae sawl rhywogaeth o adar prin yn ymweld â’r lagŵn hyfryd yma gyda Môr-wennol y Gogledd (Arctic Tern), sy’n ymddangos ar logo Llwybr Arfordirol Ynys Môn, yn ymwelydd cyson ynghŷd â’r Môr-wennol Bigddu (Sandwich Tern) a’r Môr-wennol Gyffredin (Common Tern).

Mae’r daith ar hyd y sarn yn anoddach na’r disgwyl oherwydd y graean bras ond peidiwch a phoeni gan mai dyma ddarn anoddaf y daith!

Ar ochr draw y sarn mae ‘na dŷ sy’n llechu tu ôl i furiau uchel. Bryn Aber oedd tŷ’r naturiaethwr, Capten Vivian Hewitt, symudodd i’r ardal yn y 1930au gan brynnu llawer o’r tir o gwmpas y tŷ sydd bellach yn rhan o’r warchodfa natur.

Roedd gan Gapten Hewitt ddiddordeb mawr mewn adar ac yn ogystal â chodi’r argae cyntaf i greu lagŵn. Llwyddodd i ddenu adar y môr i’r warchodfa ond roedd o hefyd am ddenu adar llai felly cododd furiau uchel o amgylch Bryn Aber er mwyn gwarchod yr ardd rhag y gwyntoedd cryf.

Er mwyn parhau ar hyd llwybr yr arfordir mae angen croesi’r bont fechan a throi i’r dde allan o’r ail faes parcio tuag at Drwyn Cemlyn, ond mae modd dilyn llwybr i’r chwith tuag at bentref Llanfairynghornwy os am osgoi’r arfordir.

Cyn cyrraedd y trwyn, ac ar ôl pasio’r cofeb i gofio’r Bâd Achub cyntaf ar Ynys Môn, mae’r llwybr yn troi i’r chwith, trwy giât mochyn, tuag at Craig yr Iwrch.

Mae’r dŵr o amgylch Craig yr Iwrch yn hafan i forloi ac i ddolffiniaid … ond yn anffodus, doedd na’r un ohonnynt i’w gweld ar y diwrnod yma!

mona-antiqua-restaurataGer Hen Borth mae modd gadael llwybr yr arfordir a throi tuag at fferm Ty’n Llan lle mae eglwys Sant Rhwydrus – un o eglwysi mwyaf anghysbell Ynys Môn, os nad Cymru.

Yn ôl Henry Rowlands, rheithor eglwys Llanidan, yn ei lyfr Mona Antiqua Restaurata: An Archaeological Discourse on the Antiquities, Natural and Historical, of the Isle of Anglesey, the Antient Seat of the British Druids a gyhoeddwyd yn 1723, mab Brenin Connacht oedd Rhwydrus oedd wedi teithio draw i Gymru ar yr un pryd â Rhuddlad, merch Brenin Leinster.

Cafodd yr eglwys cyntaf ei hadeiladu yma yn y 6ed ganrif gyda’r eglwys bresennol yn dyddio o’r 12fed ganrif ac yn un o’r eglwysi prin ar yr ynys sy’n dod o’r cyfnod cyn y diwygiad Protestanaidd.

Ym mynwent yr egwlys mae dau fedd sydd o ddiddordeb. Yma claddwyd corff Capten Christen Osuldsen o Norwy a foddwyd pan ddryllwyd ei long, y Thomas Humphries  ym mis Ionawr 1867 tra’n cludo halen o Lerpwl i Efrog Newydd.

Gerllaw mae bedd Pilot Officer Vivian Weston Parry,un o’r prin feddi yn y fynwent sy’n dyddio o’r 20fed ganrif.

Cafodd P/O Parry ei urddo â’r Distinguished Flying Cross yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra’n ynniwr gyda 150 Squadron. Bu farw ym mis Medi 1942 pan bu rhaid i’w awyren, oedd yn dychwelyd o hediad fomio dros Bremen, Yr Almaen, lanio ar frys yn Sir Efrog.

Ar ôl dychwelyd i’r llwybr arfordirol, mae’r llwybr yn cwrdd â diweddglo taith Cylch y Garn ger Hen Borth cyn ymuno â’r ffordd lle mae angenn troi i’r chwith a cherdded yn ôl tua Gwarchodfa Cemlyn.

Oriel: Cylchdaith Cemlyn

Oriel: Cylch y Garn

Cylch y Garn

cylch y garn

Man cychwyn: Ger fferm Bryn Goelcerth (SH 309918)
Ar y daith: Gary, Mari, Hywel, Rhian, Ifan, Harri, Gwenno a Catrin
Amser: Dydd Mercher 18 Chwefror, 2015: 1415 – 1700
Tywydd: Sych a gwyntog
Pellter:  6 milltir

Gan ei bod hi’n hanner tymor dyma benderfynu mynd am dro i gornel o’r ynys ‘da ni heb ymweld â hi eto, a diolch i luniau hyfryd Ian Morris Jones o’r Ladis Wen roedd pawb am fynd i weld y colofnau arbennig yma.

Ar ôl gyrru trwy pentref Llanfair-yng-Nghornwy a pharcio cyn cyrraedd fferm Bryn Coelcerth, dyma gymryd y llwybr tuag at fferm Mynachdy – peidiwch â phoeni bod yr arwydd yn dweud “Private Road” gan fod y llwybr yn croesi cowt y fferm yr ochr draw i’r parlwr godro.

Mae’n fferm anferth gyda tua 650 o wartheg godro felly mae’n bur debyg y cewch chi gwmni ar y rhan cyntaf o’ch taith heibio i’r parlwr ac allan am Drwyn y Gader … peidiwch a bod ofn! Dilynwch y traciau heibio i gefn y parlwr gyda’r ty fferm tu ôl i chi ond peidiwch a cholli’r arwydd am y llwybr sy’n arwain am yr arfordir.

Gallwch weld y Ladis Wen o’r cae cyntaf, ond peidiwch ac anelu amdanynt gan fod y llwybr yn troi tua’r gogledd ddwyrain gan godi ar hyd y caeau cyn troi tua’r arfordir unwaith eto a disgyn tuag at Lwybr Arfordirol ger simdde’r gwaith copr.

Mae cysgod y simdde yn le perffaith am bicnic wrth edrych allan tuag at Ynysoedd y Moelrhoniaid i’r gogledd ddwyrain a Maen y Bugail i’r gogledd orllewin. Mae Maen y Bugail yn un graig fawr sy’n edrych dros clwstwr o greigiau llai – yn union fel bugail yn edrych dros ei braidd.

Ac yn ôl Bedwyr Rees, cyflwynydd y rhaglen wych Arfordir Môn ar S4C, mae tarddiad enwau Biggal, sy’n un o Ynysoedd y Scilly a Beagle’s Rock a Beagle’s Point yng Nghernyw yr un peth yn union â Maen Bugail.

Wrth barhau’r â’r daith tua’r dwyrain, mae’r llwybr yn mynd heibioi’r Ladis Wen, sef meini cafodd eu codi gan y Mersey Docks and Harbour Board yn y 1860au. Mae dau o’r meini ar y tir gyda thrydydd ar Faen y Bugail ac roeddent wedi eu codi er mwyn bod o gymorth i forwyr allu hwylio heibio i greigiau tywyllodrus Maen y Bugail.

Ar ôl pasio’r Ladis, mae’r llwybr yn parhau ar hyd yr arfordir tuag at Gwarchodfa Natur Cemlyn, ond cyn cyrraedd Hen Borth, mae angen gadael Llwybr yr Arfordir er mwyn troi yn ôl tuag at Hen Felin ac ail ymuno â llwybrau fferm Mynachdy.

 

Oriel: Cylchdaith Sannan

 

Cylchdaith Sannan

sannan
Man cychwyn
: Maes Parcio Canolfan Ymwelwyr Llyn Alaw (SH 373855)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Sadwrn 14 Chwefror, 2015: 1500 – 1715
Tywydd: Sych … ond gwlyb o dan draed
Pellter:  6 milltir

Penderfyniad munud olaf oedd y daith gerdded yma felly yn hytrach ‘na cherdded rhan o’r Llwybr Arfordirol dyma ddewis un o Gylchdeithiau’r Seintiau sydd yn fyrach ac felly’n haws i’w gwblhau cyn i olau dydd ddiflannu – rhywbeth pwysig i’w ystyried yn ystod mis Chwefror!

Mae dau o Gylchdeithiau’r Seintiau yn cychwyn ger Canolfan Ymwelwyr Llyn Alaw … neu’r hyn sy’n cael ei alw’n “Ganolfan Ymwelwyr”, gan mai cwt pren gyda’i ffenestri wedi’i chwalu ydi’r “Ganolfan” bondigrybwyll erbyn hyn … ond o leia’ mae’n le cyfleus i barcio’r car.

Wrth adael y maes parcio mae ‘na arwydd sy’n dangos mai troi i’r dde sydd ei angen ar gyfer Cylchdaith Sannan ac ymlwybro i lawr y lôn fechan. Gan mai cerdded y daith mewn cyfeiriad clocwedd oeddem ni, roedd angen anwybyddu’r arwydd llwybr i’r dde cyn cyrraedd Bodnolwyn Wen a pharhau heibio i Caergwrli a Bryn Sannan cyn troi ar hyd y llwybr gerdded ger bwthyn Bronwen.

Mae’r llwybr yn crwydro ar draws gaeau Bodnolwyn Groes ac os edrychwch tua’r gogledd ar ôl pasio’r ty fferm mae modd gweld cromlech Bedd Branwen … mae’n haws fyth os ‘da chi wedi cofio’ch binocwlars (!) … ond yn anffodus nid oes mynediad cyhoeddus i’r gromlech bellach.

Ar ôl croesi Afon Alaw a chyrraedd caeau Hen Bont mae’n bosib mynd ar goll gan fod fferm Hen Bont wedi ffensio’n gymharol ddiweddar ac mae’n anodd gweld fod y llwybr yn croesi’r cowt … ond wedi dweud hynny, roedd y ffermwr yn ddigon clên i ddod allan a dangos y llwybr i ni!

Ar ôl croesi’r cowt a throi i’r chwith, mae’r llwybr yn troi yn syth i’r dde ac mae’n bwysig cadw i’r dde o’r gwrych er mwyn croesi’r cae a chyrraedd y lôn … peidiwch, da chi, â cherdded trwy’r gors cyn sylwi eich bod wedi mynd y ffordd anghywir ac yna gorfod cerdded yn ôl trwy’r gors!

Er nad yw’n rhan o’r gylchdaith fach yma, mae’n sicr werth ailymuno â’r llwybr wrth gamu dros y gamfa i’r chwith er mwyn ymweld ag eglwys Sant Afran, Sant Ieuan a Sant Sannan.

Mae’r eglwys yn dyddio o’r 14eg Ganrif ond dyw hi heb ei defnyddio ers 1899 a bellach yn dod o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Yr hyn sy’n rhyfeddol, i mi beth bynnag, yw cymaint o Saesneg sydd i’w weld ar y cerrig beddi o ystyried mai beddi o’r 18fed a 19fed ganrif mewn eglwys fechan yng nghanol Ynys Môn ydi rhain.

Ar ôl ymweld â’r egwlys, trowch yn ôl ar hyd y llwybr at y lôn cyn troi i’r chwith tuag at Melin Llynnon.

Mae modd cerdded ymlaen at y Felin am banad a theisen … os ‘da chi’n mynd am dro ar ôl Mawrth 28 … a ddim ar ddydd Gwener (!) … ond troi tuag adref ar hyd y llwybr ger Tyddyn Falog oedden ni yn ei wneud.

Ar ôl croesi’r caeau a cowt fferm Marian, mae’r llwybr yn cyrraedd yn ôl i bentref Elim ac mae angen troi i’r chwith hyd nes dod at y llwybr, sy’n troi i’r dde heibio i fferm Glanalaw ac ar draws y caeau yn ôl i faes parcio Llyn Alaw.

Cylchdaith Beaumaris

henllys-map

Man cychwyn: Castell Beaumaris (SH 607 761)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Mercher 26 Chwefror, 2014: 1300 – 1430
Tywydd: Sych ond yn fwdlyd iawn o dan droed
Pellter:  6 milltir

Er bod y rhan fwyaf o’n teithiau cerdded hyd yma wedi bod ar hyd Llwybr Arfordir Môn, mae ‘na sawl llwybr a chylchdaith arall werth eu hanturio ar yr Ynys.

Gydag Ifan yn treulio’r prynhawn yn ymarfer yn bandroom Band Pres Beaumaris penderfynom achub ar y cyfle i archwilio un o’r llwybrau hyn o amgylch Beaumaris gan gychwyn y daith ger y Castell.

Mae’r llwybr yn cychwyn yn ddigon syml wrth ddilyn Wexham Street cyn troi i’r dde tuag at westy Henllys Hall. Wedi cyrraedd y gwesty, mae angen osgoi’r trowsusau tartan a siwmperi Pringle wrth dorri ar draws Cwrs Golff Henllys.

Ar ôl cerdded heibio’r twll cyntaf ac osgoi’r peli wrth wibio heibio i lawnt rhif 16 ac 17 mae’r llwybr yn dod allan ger eglwys Llanfaes.

Yn anffodus, wrth droi i fyny’r allt a cheisio canfod y llwybr sy’n esgyn tuag at Gofeb y Teulu Bulkeley, mae’n rhy hawdd cymryd y troiad anghywir trwy’r giât mochyn a chanfod eich hun yn ôl ar y cwrs golff … sy’n golygu gorfod gwibio ar hyd lawnt yr wythfed twll cyn i unrhyw un daro pêl i’ch cyfeiriad!

Os digwydd cymryd y troiad anghywir mae modd cerdded i ben y bryn a thros y gamlas er mwyn ail ymuno â’r llwybr … a chael hoe fach gan edrych yn ôl tua’r dwyrain a golygfeydd godidog tuag at Pen y Gogarth.

Ar ôl troi cefn ar y cwrs golff mae’r llwybr yn arwain tuag at Gofeb Bulkeley, obelisg 90 troedfedd o uchder er cof am Syr Richard Bulkeley Williams-Bulkeley a fu farw ym 1875, ond, yn rhyfedd ddigon, nid yw’r llwybr yn eich arwain at y cae lle mae’r cofeb ond, yn hytrach, i’r cae drws nesaf.

Am y tro cyntaf ar ein teithiau cerdded ar yr Ynys, cawsom ein siomi o sylwi fod y gamfa oedd yn arwain allan o’r cae ger y Cofeb wedi ei rwystro â sawl hen glwyd a ffens, ac ar ôl stryffaglu drosodd i’r ffordd fawr, roedd na fwy o siom o sylwi fod yr un peth yn wir am y gamfa i’r cae gyferbyn.

Wrth fwmian sawl rheg o dan ein gwynt, llwyddom i oroesi’r rhwystrau a dilyn y llwybr i lawr tuag at y gamfa ger yr Elusendai (Almshouses) â godwyd ym 1613 gydag arian y dyngarwr, David Hughes, oedd hefyd yn gyfrifol am sefydly Ysgol Ramadeg Rydd Beaumaris.

Mae’r Elusendai ar ffordd Allt Goch Fawr sydd wedi ei henwi oherwydd y gwaed fu’n llifo o frwydr Allt Goch yn 1646. Roedd Castell Beaumaris o dan reolaeth byddinoedd Brenin Charles I,  ond yn dilyn y frwydr ar Allt Goch, ildiwyd y castell i fyddinoedd y Roundheads gan Gwnstabl y Castell, Richard Bulkeley.

Yn hytrach na cherdded i lawr Allt Goch i’r dref, mae’r cylchdaith yn troi i’r ddear hyd The Mile Road tuag at Hen Bentref Llandegfan a Llyn Pen y Parc.

Mae’r darn yma o’r gylchdaith ychydig hirach na’r disgwyl ond mae’n rhaid parhau ar hyd y ffordd hyd nes bo chi’n cwrdd â’r Llwybr Arfordirol sy’n troi yn ôl tua’r de-ddwyrain trwy Goed Parc cyn anelu’n ôl am dref Beaumaris heibio i Glwb Golff Baron Hill.

Felly yn ogystal â cherdded cylchdaith newydd, fe lwyddom ni i ychwanegu rhyw filltir i’n cyfanswm o’r Llwybr Arfordirol!

Mynydd Parys

mynyddparys

Man cychwyn: Maes Parcio Mynydd Parys (SH 437 904)
Ar y daith: Gary, Mari, Ifan, Gwenno a Theulu’r Schüpps
Amser: Dydd Mawrth 29 Hydref, 2013: 1330 – 1430
Tywydd: Sych
Pellter:  1½ milltir

Gan fod gennym ni ffrindiau draw yn aros gyda ni, roedd na ddau reswm am fynd allan am dro – y cyntaf oedd yn ein rôl fel Bwrdd Croeso Answyddogol Ynys Môn a’r llall yn fwy i wneud efo’r angen am awyr iach ar ôl noson go hegar o yfed a bwyta!

Yn hytrach na cherdded rhan o’r Llwybr Arfordirol, dyma benderfynu anelu am Y Deyrnas Gopr, sef y llwybrau treftadol o amgylch Mynydd Parys ger Amlwch.

Yn ystod y 1780au, Mynydd Parys oedd mwynglawdd copr mwyaf y byd ac mae’r gylchdaith yn arwain heibio’r hafnau anferth o dirwedd ocr, oren, piws a gwyrdd a’r pyllau dŵr amryliw.

Er mwyn gwneud y gylchdaith yn fwy difyr (ac yn fwy addysgiadol) mae modd lawrlwytho app Y Deyrnas Gopr i’ch iPhone er mwyn cael map rhyngweithiol o’r gylchdaith gyda hanes y gwaith copr ac eglurhad ysgrifenedig a chlipiau sain o’r hyn sydd i’w weld ar wahanol leoliadau ar hyd y llwybr.

Mae’r gylchdaith yn un ddigon dymunol heb fod yn ormod o laddfa, sy’n beth da i gael gwared ar unrhyw hangover!

Ac oes oes gan rhywun unrhyw fath o ddiddordeb mewn ffotograffiaeth mae’r tirwedd yn cynnig ei hun yn berffaith i gymryd lluniau trawiadol ac unigryw.

Ar ôl cael digon o awyr iach i glirio’r pen, mae siop chips Cemaes yn fan perffaith am pit stop a chyfle i gymharu lluniau!