Llwybr Cadog

cadog

Man cychwyn: Gwesty Tŷ Dderw (SH 505858)
Ar y daith: Gary, Mari, Ifan, Lyn, Ceri, Ed, Rhys, Megan a Nel
Amser: Dydd Sadwrn 26 Ebrill, 2014: 1400 – 1545
Tywydd: Braf gydag ambell gawod
Pellter:  4 milltir

Yn ogystal â Llwybr yr Arfordir, mae sawl cylchdaith cerdded ar yr ynys sydd wedi eu henwi ar ôl gwahanol seintiau Celtaidd Ynys Môn a ‘da ni wedi bwrw ati i geisio cwblhau’r rhain yn ogystal â’r Llwybr Arfordirol … ia, dwi’n gwybod fod un her yn ddigon i’r rhan fwyaf o bobl!

Ger Moelfre, mae dau o’r llwybrau, sef Cadog a Gallgo, ac mae’r ddau yn arwain i wahanol gyfeiriadau o Draeth Lligwy. Ond yn hytrach na pharcio ar y traeth, penderfynom ni gychwyn – a gorffen – ein taith ar hyd llwybr Gallgo ym mhentref Moelfre er mwyn cael peint a chips ar y diwedd!

Ar ôl parcio, gyda chaniatâd y perchnogion,  ym maes parcio Gwest Tŷ Dderw dyma droi i’r dde ar y ffordd fawr allan o Moelfre hyd nes cyrraedd y cylchfan a throi i’r chwith gan anelu am Gromlech Lligwy a Thraeth Lligwy.

Yn anffodus, mae’r cymal cyntaf o’r daith yn teithio ar hyd lôn fechan gymharol brysur … dwi’n dweud “yn anffodus” gan fod ambell i yrrwr yn mynd ar wib i lawr am y traeth sy’n golygu fod rhaid i gerddwyr fod yn ddigon effro.

Mae’n bechod fod y gyrrwyr yn mynd ar cymaint o gyflymder gan eu bod nhw, o’r herwydd, yn methu Cromlech Lligwy – bedd sydd wedi ei dyllu i mewn i’r graig a’i gorchuddio gan garreg fawr – yn dyddio o tua 2500CC.

Pan gloddiwyd y safle ym 1909 darganfyddwyd nifer o weddillion o’r cyfnod Neolithig. Ac mae mwy o weddillion hanesyddol i’w gweld ychydig ymhellach i lawr y ffordd wrth basio Din Lligwy, sef cytiau caeëdig sy’n dyddio o’r cyfnod Rhufeinig, ac adfeilion hen Gapel Lligwy.

Wedi cyrraedd Traeth Lligwy, mae modd eistedd a chael panad a chacen o’r cwt tê ar y traeth, cyn troi tua’r dwyrain yn ôl am Moelfre … ac o fan hyn ymlaen does dim rhaid poeni am Gwyndaf Evans a’i gyfeillion gan eich bod chi bellach ar Lwybr yr Arfordir.

Mae’r llwybr yn troellio’n llythrenol, bron, ar hyd yr arfordir gan sicrhau rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol yr holl Lwybr Arfordirol draw ar draws Bae Lerpwl.

Wrth agosáu at gofeb llong y Royal Charter, mae hi’n anodd credu, ar ddiwrnod braf o Wanwyn, bod llong wedi’i ddryllio ar y creigiau yma mewn storm enbyd ym mis Hydref 1859 gyda dros 400 o bobl yn boddi, ond mae sawl stori a sawl llongddrylliad yn perthyn i greigiau peryglus Moelfre.

Wedi cyrraedd cyrion pentref Moelfre, mae arwyddion Llwybr y Seintiau yn eich cyfeirio i’r dde tuag at y pentref ond mae’n werth dilyn y Llwybr Arfordirol i’r chwith tuag at Swnt a Phorth yr Ynys er mwyn gweld y cerflun newydd a thrawiadol sy’n rhan o Brosiect Celf ac Amgylcheddol y Swnt.

Ac wrth gerdded i lawr y llwybr o’r Swnt tuag at ganol y pentref … a’r peint cyntaf ‘na yn y Kinmel Arms … peidiwch, ‘da chi, ac osgoi’r llwybr sy’n arwain heibio i Wylfan Moelfre a cherflun godidog Dic Evans yn ogystal â’r cerflun newydd sy’n cofio llongdrylliad y Royal Charter.

Am gopïau o bamffledi Cylchdeithiau’r Seintiau gyrrwch neges at angleseywalks@mentermon.com a ‘dwi’n siwr bydd y pobl hyfryd ym Menter Môn yn fwy na pharod i’w gyrru draw!

Oriel: Pontrhydybont i Rhosneigr

Pontrhydybont i Rhosneigr

bont-rhosneigr

Man cychwyn: Pontrhydydbont (SH 279 783)
Ar y daith: Gary
Amser: Dydd Mercher 9 Ebrill, 2014: 1115 – 1350
Tywydd: Braf … ond hynod o fwdlyd!
Pellter:  10 milltir

Gan fy mod i yn cael diwrnod i’r brenin ar ddydd Mercher, dyma benderfynu gwblhau darn o’r llwybr sydd, yn llythrennol, ar stepen drws ty ni.

Yn rhyfedd ddigon, er byw mor agos i’r darn o’r llwybr sy’n rhedeg o Bontrhydybont i Rhosneigr, dwi erioed wedi’w chrwydro o’r blaen, ac o weld y cymal cyntaf ohonni, efallai bod na reswm da pam nad oeddwn i wedi gwneud ychwaith!

Yn dilyn yr holl law dros y gaeaf ‘ma, mae’r cymal cyntaf o’r llwybr yn croesi cae fferm sy’n un o fwd a baw gwartheg, y math o fwd sy’n edrych yn ddigon cadarn … ond yr eiliad ‘da chi’n rhoi’ch pwysau i gyd ar un droed, mae’n cael ei lyncu gan y mwd!

Ar ôl goroesi’r baw, mae’r llwybr yn codi ar hyd y penrhyn ac yn arwain ar hyd y caeau tuag at amddiffynfa llifogydd Tyddyn-y-cob ger Y Fali. Mae modd troi yn ôl am Y Fali yn y fan yma a chrwydro’r llwybr o dan yr A55 a heibio i gaeau pêl-droed Parc Mwd er mwyn cwblhau cylchdaith digon hamddenol.

Ond anelu am Rhosneigr oeddwn i felly dyma godi dros y boncyn a’r ceffylau busneslud yn y cae.

Mae hi braidd yn aneglur pa bryd sydd angen troi i’r dde yn y fan hyn ond, yn y bôn, mae angen cyrraedd y gamfa a’r lôn fach sy’n arwain at fferm Glan Rhyd Isaf a’i charafanau.

Ar ôl pasio’r carafnau, mae ‘na gyfle i olchi’r baw gwartheg oddi ar eich esgidiau wrth groesi’r traeth cyn camu dros y gamfa a chroesi’r caeau unwaith eto tuag at Penrhyn-hwlad. Yn hytrach na chroesi ar draws y bae, mae angen amgylchynu’r gilfach trwy dwnel arallfydol sydd wedi’i greu gan y coed sydd, erbyn hyn, yn eu blodau.

Wrth gyrraedd diwedd y sarn, mae’n hawdd cymryd y llwybr anghywir yma gan nad yw arwyddion y Llwybr Arfordirol yn glir iawn. Mae ‘na lwybr cyhoeddus sy’n arwain i fyny heibio i fferm Ty’n y Ddôl, ond anwybyddwch y llwybr yma a dilynwch y llwybr i’r de-orllewin ar hyd yr arfordir.

Daw’r llwybr allan ger pen llain lanio maes awyr RAF Valley – yn wir, does dim modd mynd llawer agosach i’r llain lanio heb cael eich arestio!

Ar ôl colli’ch clyw wrth geisio tynnu llun awyren yn hedfan heibio, dylwch droi i’r dde a chroesi traeth Rhyd y Gari gan anelu am adeilad mawr gwyn Plas Cymyran. Mae’r llwybr yn troedio’r tir tu ôl i Blas Cymryan gan bod y traeth sy’n wynebu Ynys Cybi yn draeth preifat, ond mae’n haws croesi’r traeth os yw’r llanw allan nag ydyw ddringo’r creigiau tu ôl i’r Plas!

Mae darn difyra’r daith tu ôl i chi bellach a’r unig beth sydd at ôl yw’r daith ar draws Traeth Cymyran a Thraeth Crigyll … ond … ac mae’n “ond” pwysig, peidiwch ‘da chi a cheisio anelu’n syth am Rhosneigr ar draws y traeth.

Oni bai eich bod chi’n fodlon halio’ch trowsus dros eich pen-glin a gwlychu’n llwyr mae angen cadw i’r chwith wrth groesi Traeth Crigyll er mwyn dod at y bont sy’n croesi’r afon sy’n rhedeg ar draws y traeth ac i’r môr!

Unwaith eich bod chi dros yr afon ac ar ochr Rhosneigr o’r traeth gallwch anelu am gaffi hyfryd y Surf Café sydd uwchben y siop syrffio am banad a bechdan haeddianol!

Parc y Morglawdd i Ynys Lawd

morglawdd

Man cychwyn: Maes Parcio Parc y Morglawdd (SH 225 833)
Ar y daith: Gary, Mari ac Ifan
Amser: Dydd Sadwrn 15 Mawrth, 2014: 1315 – 1430
Tywydd: Sych a gwyntog
Pellter:  3½ milltir

Er nad oedd gennym ni llawer o amser roedden ni’n benderfynol o fynd allan am dro prynhawn ‘ma i gael ychydig bach o awyr iach, felly dyma benderfynu cerdded o Barc y Morglawdd, Caergybi i Ynys Lawd.

Di hon ddim yn daith newydd i ni o gwbwl, yn enwedig gan ei bod hi bron ar stepen y drws, ond mae hi’n ymlwybriad digon dymunol ar brynhawn Sadwrn gwyntog!

Gyda llond tŷ o deulu’n dod draw am swper, roedd angen sicrhau y bydden ni yn ôl yn y tŷ mewn pryd i’w croesawu felly yn hytrach na cherdded y gylchdaith o amgylch Mynydd Twr, dyma adael un car ym maes parcio Caffi Ynys Lawd cyn gyrru’r llall i faes parcio Parc y Morglawdd.

Mae ‘na gofeb ym Mharc y Morglawdd er cof am wyth aelod o awyrlu America fu farw pan blymiodd eu hawyren B-24 i’r ddaear ger Ynys Arw ym 1944 wrth iddynt geisio cyrraedd RAF Y Fali mewn tywydd garw.

Mae gweddillion yr awyren yn parhau i fod yn agos at y creigiau ger Ynys Cybi ond mae’r propelor wedi ei achub o’r môr a’i osod ar y garreg fel rhan o’r gofeb.

Wrth gychwyn tuag at Ynys Lawd, mae’r llwybr yn crwydro bron yn llythrenol ar hyd arfordir gogleddol Ynys Cybi gyda golygfeydd hyfryd yn ôl dros y porthladd a Thraeth Newry am orllewin Ynys Môn.

Mae’n deg dweud fod y llwybr yn esgyn yn gyflymach na’r disgwyl wrth anelu tuag at orsaf y corn niwl ar Ynys Arw, neu North Stack, ond ar ddiwrnod braf mae ‘na olygfeydd hyfryd o Ynysoedd y Moelrhoniaid, a hyd yn oed Ynys Manaw, ac, wrth gwrs, sawl llong Stenna Line ac Irish Ferries!

Cyn cyrraedd yr orsaf corn niwl mae adfail o’r hen orsaf semaphore sy’n dyddio o flynyddoedd cynnar y 19fed ganrif. Roedd yr orsaf yn un o gyfres o orsafoedd ar hyd arfordir gogledd Cymru oedd yn cael eu defnyddio i yrru negeseuon yn ôl a blaen i Lerpwl wrth i longau gyrraedd Bae Lerpwl o Fôr Iwerddon.

Ger yr orsaf corn niwl mae’r llwybr yn troi tuag at gopa Mynydd Twr ac, wrth ddilyn arwyddion Cylchdaith Cybi, mae modd dilyn llwybr dros y copa ac yn ôl i Barc y Morglawdd, ond dilyn y Llwybr Arfordirol am Ynys Lawd oedd ein bwriad ni … felly doedd dim angen esgyn yn rhy uchel!

Mae’r creigiau ar droed Mynydd Twr yn boblogaidd iawn gyda dringwyr felly mae’r darn yma o’r llwybr yn tueddol o fod yn brysur wrth i bobl gerdded i fyny o gyfeiriad meysydd parcio Ynys Lawd.

Ond wrth basio’r dringwyr a chyrraedd y mastiau radio mae’n rhy hawdd dilyn y ffordd yn syth i lawr am y caffi yn hytrach na throi i’r dde a pharhau ar hyd Llwybr yr Arfordir felly cofiwch gadw llygaid allan am yr arwyddion!

Er fod y llwybr swyddogol mymryn yn hirach na’r llwybr tarmac, mae’n sicrhau eich bod chi’n cael y golygfeydd gorau o oleudy Ynys Lawd o’r hen lecyn gwylio sydd uwchben yr ynys.

Ac ar ôl tynnu’ch lluniau mae’n amser disgyn i lawr tua’r caffi am banad a hufen iâ haeddianol!

Oriel: Cylchdaith Beaumaris

Cylchdaith Beaumaris

henllys-map

Man cychwyn: Castell Beaumaris (SH 607 761)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Mercher 26 Chwefror, 2014: 1300 – 1430
Tywydd: Sych ond yn fwdlyd iawn o dan droed
Pellter:  6 milltir

Er bod y rhan fwyaf o’n teithiau cerdded hyd yma wedi bod ar hyd Llwybr Arfordir Môn, mae ‘na sawl llwybr a chylchdaith arall werth eu hanturio ar yr Ynys.

Gydag Ifan yn treulio’r prynhawn yn ymarfer yn bandroom Band Pres Beaumaris penderfynom achub ar y cyfle i archwilio un o’r llwybrau hyn o amgylch Beaumaris gan gychwyn y daith ger y Castell.

Mae’r llwybr yn cychwyn yn ddigon syml wrth ddilyn Wexham Street cyn troi i’r dde tuag at westy Henllys Hall. Wedi cyrraedd y gwesty, mae angen osgoi’r trowsusau tartan a siwmperi Pringle wrth dorri ar draws Cwrs Golff Henllys.

Ar ôl cerdded heibio’r twll cyntaf ac osgoi’r peli wrth wibio heibio i lawnt rhif 16 ac 17 mae’r llwybr yn dod allan ger eglwys Llanfaes.

Yn anffodus, wrth droi i fyny’r allt a cheisio canfod y llwybr sy’n esgyn tuag at Gofeb y Teulu Bulkeley, mae’n rhy hawdd cymryd y troiad anghywir trwy’r giât mochyn a chanfod eich hun yn ôl ar y cwrs golff … sy’n golygu gorfod gwibio ar hyd lawnt yr wythfed twll cyn i unrhyw un daro pêl i’ch cyfeiriad!

Os digwydd cymryd y troiad anghywir mae modd cerdded i ben y bryn a thros y gamlas er mwyn ail ymuno â’r llwybr … a chael hoe fach gan edrych yn ôl tua’r dwyrain a golygfeydd godidog tuag at Pen y Gogarth.

Ar ôl troi cefn ar y cwrs golff mae’r llwybr yn arwain tuag at Gofeb Bulkeley, obelisg 90 troedfedd o uchder er cof am Syr Richard Bulkeley Williams-Bulkeley a fu farw ym 1875, ond, yn rhyfedd ddigon, nid yw’r llwybr yn eich arwain at y cae lle mae’r cofeb ond, yn hytrach, i’r cae drws nesaf.

Am y tro cyntaf ar ein teithiau cerdded ar yr Ynys, cawsom ein siomi o sylwi fod y gamfa oedd yn arwain allan o’r cae ger y Cofeb wedi ei rwystro â sawl hen glwyd a ffens, ac ar ôl stryffaglu drosodd i’r ffordd fawr, roedd na fwy o siom o sylwi fod yr un peth yn wir am y gamfa i’r cae gyferbyn.

Wrth fwmian sawl rheg o dan ein gwynt, llwyddom i oroesi’r rhwystrau a dilyn y llwybr i lawr tuag at y gamfa ger yr Elusendai (Almshouses) â godwyd ym 1613 gydag arian y dyngarwr, David Hughes, oedd hefyd yn gyfrifol am sefydly Ysgol Ramadeg Rydd Beaumaris.

Mae’r Elusendai ar ffordd Allt Goch Fawr sydd wedi ei henwi oherwydd y gwaed fu’n llifo o frwydr Allt Goch yn 1646. Roedd Castell Beaumaris o dan reolaeth byddinoedd Brenin Charles I,  ond yn dilyn y frwydr ar Allt Goch, ildiwyd y castell i fyddinoedd y Roundheads gan Gwnstabl y Castell, Richard Bulkeley.

Yn hytrach na cherdded i lawr Allt Goch i’r dref, mae’r cylchdaith yn troi i’r ddear hyd The Mile Road tuag at Hen Bentref Llandegfan a Llyn Pen y Parc.

Mae’r darn yma o’r gylchdaith ychydig hirach na’r disgwyl ond mae’n rhaid parhau ar hyd y ffordd hyd nes bo chi’n cwrdd â’r Llwybr Arfordirol sy’n troi yn ôl tua’r de-ddwyrain trwy Goed Parc cyn anelu’n ôl am dref Beaumaris heibio i Glwb Golff Baron Hill.

Felly yn ogystal â cherdded cylchdaith newydd, fe lwyddom ni i ychwanegu rhyw filltir i’n cyfanswm o’r Llwybr Arfordirol!

Mynydd Parys

mynyddparys

Man cychwyn: Maes Parcio Mynydd Parys (SH 437 904)
Ar y daith: Gary, Mari, Ifan, Gwenno a Theulu’r Schüpps
Amser: Dydd Mawrth 29 Hydref, 2013: 1330 – 1430
Tywydd: Sych
Pellter:  1½ milltir

Gan fod gennym ni ffrindiau draw yn aros gyda ni, roedd na ddau reswm am fynd allan am dro – y cyntaf oedd yn ein rôl fel Bwrdd Croeso Answyddogol Ynys Môn a’r llall yn fwy i wneud efo’r angen am awyr iach ar ôl noson go hegar o yfed a bwyta!

Yn hytrach na cherdded rhan o’r Llwybr Arfordirol, dyma benderfynu anelu am Y Deyrnas Gopr, sef y llwybrau treftadol o amgylch Mynydd Parys ger Amlwch.

Yn ystod y 1780au, Mynydd Parys oedd mwynglawdd copr mwyaf y byd ac mae’r gylchdaith yn arwain heibio’r hafnau anferth o dirwedd ocr, oren, piws a gwyrdd a’r pyllau dŵr amryliw.

Er mwyn gwneud y gylchdaith yn fwy difyr (ac yn fwy addysgiadol) mae modd lawrlwytho app Y Deyrnas Gopr i’ch iPhone er mwyn cael map rhyngweithiol o’r gylchdaith gyda hanes y gwaith copr ac eglurhad ysgrifenedig a chlipiau sain o’r hyn sydd i’w weld ar wahanol leoliadau ar hyd y llwybr.

Mae’r gylchdaith yn un ddigon dymunol heb fod yn ormod o laddfa, sy’n beth da i gael gwared ar unrhyw hangover!

Ac oes oes gan rhywun unrhyw fath o ddiddordeb mewn ffotograffiaeth mae’r tirwedd yn cynnig ei hun yn berffaith i gymryd lluniau trawiadol ac unigryw.

Ar ôl cael digon o awyr iach i glirio’r pen, mae siop chips Cemaes yn fan perffaith am pit stop a chyfle i gymharu lluniau!

Parhau â’r her …

Cychwyn o Foel-y-don

Criw Crwydro

Wel, mi oedd hynny’n anoddach na’r disgwyl! Union flwyddyn ers dechrau’r her o gwblhau’r Llwybr Arfordirol da ni dal heb hyd yn oed gyrraedd hanner ffordd!

Y rheswm pennaf am yr oedi yw’r ffaith ein bod ni wedi addo cwblhau’r llwybr fel un criw … ac mae cael pawb at eu gilydd ar yr un diwrnod wedi profi’n anoddach na bugeilio cathod!

Felly dyma gario’r her ymlaen i 2013 ac addo ein bod ni’n mynd i gadw at yr her tan ein bod ni wedi gorffen … ac addo ein bod yn mynd i barhau i flogio hefyd!

Oriel Gaztelugatxe Doniene

Gaztelugatxe Doniene, Euskal Herria

bermeo

Man cychwyn: Bwyty Eneperi, San Pelaio
Ar y daith: Gary, Mari, Ifan a Gwenno
Amser: Dydd Sul 12 Awst, 2012: 1400 – 1600
Tywydd: Poeth
Pellter:  4km

Yn amlwg, mae’r syniad o gerdded a chrwydro wedi cydio go iawn yn ein teulu ni gan ei bod wedi penderfynnu fynd ar grwydr tra ar ein gwyliau yng Ngwlad y Basg.

Roeddem yn aros ym mhentref glan môr Sopelana, tua hanner awr i’r gogledd o Bilbao. Yn ogystal â thraethau ysblennydd gydag amodau delfrydol i holl ‘surf dudes‘ Ewrop, mae golygfeydd godidog arfordir y gogledd yn gwneud i rhywun awchu i fynd allan ac archwilio.

Pan yn gofyn i bobl lleol am lefydd y dylwn ymweld â nhw roedd pawb y sôn am egwlys Gaztelugatxe Doniene, neu San Juan de Gaztelugatxe, ger Bermeo. Mae’r gair Gaztelugatxe yn dod o’r Basgeg, gaztelu = “castell” ac aitz = “craig” ac mae castell y graig yn ddisgrifiad perffaith o’r feudwyfa hyfryd yma a’r llwybr carregog sy’n arwain fry tuag ati.

Wedi teithio draw i Bermeo a pharcio ger bar a bwyty Eneperi dechreuodd y pedwar ohonnom ni gerdded tua’r egwlys. Yn anffodus, yng Ngwlad y Basg, nid mewn milltiroedd (na kilometrau)  mae’r arwyddion yn mesur hyd taith gerdded … ond mewn munudau!

Ac fe ddaeth yn reit amlwg yn reit sydyn nad oedd y person fesurodd y daith yma erioed wedi ei chwblhau yng nghanol gwres llethol mis Awst!

Mae’r daith i lawr y mynydd o’r bar yn caniatau golygfeydd godidog o’r eglwys a’r llwybr sy’n ymestyn allan i’r graig ym Môr yr Iwerydd … ond hefyd yn rhoi syniad o faint y dasg o’ch blaen.

Fel bydde rhywun yn ei ddisgwyl o bererindod Pabyddol, mae 14 Gorsaf y Groes ar y llwybr a’r grisiau sy’n arwain i fyny’r graig ac i’r eglwys ac mae’n draddodiad ar ôl cyrraedd yr eglwys i ganu’r gloch deirgwaith er mwyn cael ychydig o lwc.

Mae’r daith yn ôl i lawr y grisiau’n gymharol rhwydd … o’i gymharu a’r daith i fyny … ond mae’r llwybr serth yn ôl i’r bar yn gallu creu cryn drafferthion yn y gwres – yr unig beth sy’n cadw dyn i fynd yw’r ffaith fod ‘na gwrw oer yn disgwyl amdano ar derfyn y daith!