Oriel: Llyn Rhos Ddu i Falltraeth

Llyn Rhos Ddu i Falltraeth

Man cychwyn: Maes Parcio Llyn Rhos Ddu (SH 426 647)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo a Nel
Amser: Dydd Sadwrn 28 Ebrill: 1200 – 1655
Tywydd: Sych ond gyda gwynt cryf ar adegau
Pellter: 9½ milltir

Ar ôl y daith fawreddog ar hyd arfordir y gogledd ar ddechrau’r mis, roedd hi’n amlwg bod criw Crwydro wedi torri ein danedd ar y teithiau gymharol fyr a bellach yn barod am deithiau hirach.

Penderfynwyd y byddwn ni’n dychwelyd i dde’r ynys er mwyn cwblhau’r daith allan am Ynys Llanddwyn gan fod cŵn wedi eu gwahardd oddi yno rhwng 1 Mai a diwedd mis Medi … a doedden ni ddim am i Carlo a Nel gael colled, nagoedd!

Maes parcio Llyn Rhos Ddu oedd y man cychwyn – lle ddaeth y daith o’r Sŵ Môr i ben yn ôl ym mis Ionawr – a’r nod oedd cyrraedd Malltraeth a pheint yn y Joiner’s Arms mewn pryd i wylio’r sgôrs pêl-droed yn cyrraedd!

Dwi’n siwr fod pob un o’r criw ‘di bod i Ynys Llanddwyn sawl tro – er fod Ed yn trio deud bod na bron i 30 mlynedd ers iddo fod yno – ond mae’n rhaid i ni gwblhau pob cam o’r llwybr gyda’n gilydd.

A pheth arall sy’n hyfryd am gerdded y llwybr yma, ydi’r cyfle i weld a cherdded ffyrdd cyfarwydd ond ar hyd llwybrau anghyfarwydd – tydw i erioed wedi cyrraedd Traeth Llanddwyn ar hyd y llwybr o Lyn Rhos Ddu o’r blaen.

Yn wahanol i’n teithiau eraill, roedd ‘na lwyth o bobl ar yr un llwybr â ni … wel, am y rhan cyntaf o’r daith ar hyd Traeth Llanddwyn ac Ynys Llanddwyn beth bynnag … mae Llanddwyn yn le poblogaidd!

Doedden ni ddim yn rhy siwr os oedd y llwybr o amgylch Ynys Llanddwyn ei hun yn rhan swyddogol o’r Llwybr Arfordirol ond gan ei fod yn rhan mor hyfryd o’r byd dyma benderfynu gerdded draw at fythynod y peilotiaid a’r Tŵr Mawr beth bynnag.

Ar ôl gadael yr Ynys mae na ddau ddewis o lwybr i’w ddilyn tua’r gorllewin a chob Malltraeth – un ar hyd Traeth Penrhos a’r llall trwy’r goedwig – ar ôl pleidlais sydyn* fe benderfynwyd y byddwn ni yn mynd ar hyd y traeth.

Yn anffodus i ni roedd y gwynt yn dod yn syth i’n hwynebau ac roedd y tywod yn chwyrlio o’n hamgylch wrth i ni geisio cyrraedd trwyn Traeth Penrhos a’r Morfa Heli fyddai’n ein harwain yn ôl tua’r goedwig!

Yr unig ffordd i ddwyn perswâd ar y plant (a Sonia!) i beidio cwyno ac i’w sicrhau ein bod ni’n agosau at ddiwedd ein taith oedd i bwyntio at y tai gwyn yn y pellter trwy’r cwmwl tywod a’u sicrhau mai’r Joiner’s Arms oedd un o’r tai … wrth gwrs, doedden ni ddim am ddweud fod angen i ni droi yn ôl i’r goedwig am rhyw ddwy neu dair milltir arall cyn bod ni’n cyrraedd y tai gwyn!

Ar ôl gadael y twyni tywod roedd y daith trwy’r goedwig yn un digon pleserus ar hyd lonydd y Comisiwn Coedwigaeth, ac ar ôl seibiant i gael panad a bechdan … a gwagio’r tywod o’n esgidiau … dim ond y darn olaf o’r llwybr sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd fawr oedd o’n blaenau.

Ar ôl croesi Cob Malltraeth roedd tafarn y Joiner’s Arms a siop chips Malltraeth yn fanna o’r nefoedd … yn enwedig ar ôl clywed ein bod ni wedi cerdded am naw milltir a hanner … dwy filltir a hanner yn hirach nag yr oedden wedi ei feddwl!

‘Di peint o Guinness erioed wedi blasu mor neis!

* [… mae’n rhaid i mi gofnodi’n fan hyn mai Mari oedd â’r bleidlais olaf, felly hi sydd ar fai am ein taith Lawrence of Arabaidd yn syth i wyneb y gwynt a’r storm tywod ..!]

 

Teclyn ffansi Tosh

GPS Llyn Rhos Ddu i Malltraeth

GPS Llyn Rhos Ddu i Malltraeth

Yn ôl teclyn ffansi GPS Tosh, fe gerddon ni 9.7 milltir ddoe … does na’m rhyfedd fod pawb yn cwyno erbyn y diwedd felly nagoes!

 

Oriel: Porth Amlwch i Gemaes

Gwaith Brics Porth Wen

Gwaith brics Porth Wen

Gwaith brics Porth Wen

Ar y daith gerdded rhwng Porth Amlwch a Chemaes mae modd gweld un o safleoedd diwydianol hanesyddol Ynys Môn wrth basio hen waith brics Porth Wen.

Mae’n warthus i feddwl, er fy mod wedi byw ar yr Ynys am y rhan helaeth o fy mywyd … ac wedi byw am gyfnod yng Nghemaes, cwta dwy filltir o Borth Wen … nad oeddwn i yn ymwybodol o fodolaeth yr hen waith brics!

Felly dyma fwrw ati i ddarganfod mwy am y safle er mwyn addysgu fy hun … ac Ifan, sydd wedi bod yn holi am y lle ers ddydd Gwener!

Sefydlwyd y gweithle yn y 1850au gan fod cyflenwad anferth o fwyn silica yn y graig cwarts gerllaw a chan fod brics silica yn gallu gwrthsefyll gwres tanbaid, roedd ‘na alw mawr amdanynt gan y diwydiant dur er mwyn adeiladu ffwrnesi ac odynau.

Mae’n rhaid talu teyrnged i ddyfeisgarwch pobl yr oes Fictoraidd lwyddodd i harnesu grym disgyrchiant i brosesu’r gwaith. Roedd y mwyn yn cael ei gloddio ar y penrhyn uwchben y gwaith cyn disgyn i lawr i droed y clogwyn lle roedd y brics yn cael eu siapio, eu sychu a’u tanio yn yr odynau.

Yn wahanol i Fynydd Parys, lle roedd y copr yn cael ei gludo i Borth Amlwch, penderfynwyd adeiladu harbwr fechan ym Mhorth Wen er mwyn cludo’r brics yn syth allan o’r gweithle.

Ond, er safon y brics, roedd sawl perchennog yn gwrthod caniatau i’w llongau angori yn yr harbwr oherwydd y peryglon o fod mewn harbwr mor fychan pan fo tywydd garw’n bygwth.

Erbyn dechrau’r Rhyfel Mawr roedd safon y gwaith wedi dirywio hefyd – yn ôl y chwedl leol, roedd hyn oherwydd anghydfod rhwng perchennog y gwaith a’i giaffar – a chyn diwedd 1914, roedd y gwaith wedi cau.

Bron i gan mlynedd yn ddiweddarach, mae sgerbwd y gweithle yn parhau i frwydro yn erbyn yr elfennau a chyda’r bae yn llawn o hen frics sy’n prysur erydu’n ôl i’w cyflwr gwreiddiol, mae’r olygfa yn un hynod o drawiadol sydd werth pob cam o’r daith o Borth Amlwch!

Porth Amlwch i Gemaes

Porth Amlwch i Gemaes

Man cychwyn: Porth Amlwch (SH 452 935)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo
Amser: Dydd Gwener 6 Ebrill: 1200 – 1650
Tywydd: Cymylog gydag ychydig o law mân
Pellter: 7½ milltir

Mae hi ‘di bod yn fis prysur iawn i griw Crwydro … hynny ydi, yn fis o wneud perthau eraill pob penwythnos fel bod taith gerdded ddim ‘di bod yn bosib, ond o’r diwedd fe gawsom ni gyfle i fynd allan ac ymestyn y coesau unwaith eto ddydd Gwener.

Ar ôl tair cymal o rhyw dair neu bedair milltir, roedd hi’n amser i ni wneud taith mymryn hirach … a mymryn mwy heriol … felly dyma fwrw ati i wneud y cymal mwyaf gogleddol o’r llwybr rhwng Porth Amlwch a Chemaes.

Canolfan Treftadaeth Porth Amlwch a’i harddangosfa o’r gwaith adeiladu llongau a mwyngloddio copr oedd ein man cychwyn ac roedd ‘na arwydd o’r hyn oedd i ddod wrth i ni esgyn o’r harbwr bach i fyny’r llwybr tua copa Trwyn Penwaig – hynny ydi … llwybrau yn mynd am i fyny … a’r ffaith i fi a Ceri cael ein gadael ar ôl wrth dynnu lluniau!

Ar ôl cerdded heibio i hen weithdy Octel mae’r llwybr yn troi yn ôl tua’r arfordir tra bo’r sgwrs yn troi at ffwlbri caniatau cynllunio’r fath erchyllbeth ar arfordir mor drawiadol!

Mae’r rhan agoriadol yma o’r llwybr yn un digon hamddenol wrth iddi droelli a dilyn patrwm y clogwyni tuag at bentref Porth Llechog, lle’r roeddem ni wedi penderfynu y byddai’r bechdanau’n cael eu hagor!

Un peth hyfryd am gerdded y llwybr gyda mapiau OS ydi darganfod enwau’r ogofau, y trwynau a’r holl faeau ar yr arfordir. Cyn cyrraedd Porth Llechog fe gamo’n ni heibio i Borth Offeiriaid (heb ddweud pader), Pwll y Tarw ac Ogof y Wennol.

Ond Pwll y Merched a Thraeth Dynion oedd y ddau fae lwyddodd i ddal fy sylw … dwn i ddim beth ydi tarddiad enwau’r ddau fae nac ychwaith pam fo’r dynion a’r merched wedi cael traeth ar wahân, er wedi dweud hynny, roedd y sgwrs gafodd y merched ar y rhan cyntaf y daith heddiw yn ddigon i wneud i mi fod eisiau nofio ar fy ben fy hun hefyd ..!

Beth bynnag, ar ôl bechdan, mefus a darn mawr o siocled yr un, roedd pawb yn barod i wynebu ail ran y daith ac os oedd y rhan cyntaf cyn cinio yn ddigon hamddenol, roedd y cymal rhwng Porth Llechog a Chemaes yn un dra gwahanol.

Dwn i ddim pwy ddywedodd erioed fod Ynys Môn yn wastad … ond roedden nhw’n dweud celwydd noeth!

Mae’r llwybr ogleddol yn fwy anghysbell na’r un ‘da ni eisoes wedi ei droedi ger glannau’r Fenai ac fel ddywedodd Ceri: “Dim ond môr ‘da ni’n weld heddiw” … wel ia, ar lwybr arfordirol, pwy ‘sa di meddwl y fath beth ynde!

Yn ogystal â bod yn anghysbell, mae’r llwybr yn un sy’n esgyn a disgyn nes bod rhywun yn teimlo fel byddin Dug Caer Efrog! Ar ôl dringo’r clogwyn  … disgyn yn ôl yr ochr arall … codi’n ôl … disgyn yn ôl … codi … disgyn … codi … disgyn … mae’r pen-gliniau’n stiff iawn erbyn heno!!

Chwarae teg i Megan a Gwenno am edrych ar fy ôl i wrth i ni esgyn i fyny’r set olaf o steps wrth Ogof Gynfor, dwi ddim yn meddwl y buaswn i wedi cyrraedd y top heb eu help!

Mae ‘na ambell i olygfa annisgwyl ar y daith yma hefyd gyda hen weithfeydd brics Porth Wen a Phorth Llanlleiana yn ogystal â thŵr gwylio Llanlleiana – y pwynt mwyaf gogleddol ar y llwybr, os nad yng Nghymru.

Ac wrth igam-ogamu i lawr i gyfeiriad Cemaes mae’r llwybr yn mynd heibio i Eglwys St Badrig, eglwys gafodd ei hadeiladu gan Padrig yn y pumed ganrif. Yn ôl y sôn roedd o ar y ffordd i weld St Columba ar Ynys Iona cyn mynd i Iwerddon, ond cafodd ei long ei ddryllio ar Ynys Badrig oddi ar ogledd Ynys Môn a phenderfynodd godi eglwys.

Ar ôl cyrraedd diwedd y daith ym maes parcio lan-y-môr Cemaes, roedd pawb wedi blino yn ofnadwy, ond myn diawl i roedd na deimlad anferth o falchder o fod wedi gorffen y cymal mwyaf heriol o’r llwybr!

Oriel: Pwllfannog i Porthaethwy

Pwllfannog i Porthaethwy

Pwllfannog i Porthaethwy

Man cychwyn: Pwllfannog, Llanfairpwll (SH 530 708)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo
Amser: Dydd Sul 12 Chwefror: 1430 – 1610
Tywydd: Cymylog gydag ychydig o law mân
Pellter: 3 milltir

Wedi dyddiau Sul digon diflas heb yr un o’n teithiau cerdded fe lwyddom ni i droedio’r llwybr unwaith eto ddydd Sul er gwaetha’r tywydd ac er gwaetha’r ffaith bod na ambell i aelod o’r criw eisiau gweld rhyw gêm rygbi neu’i gilydd!

Ar ôl crwydro ar hyd yr arfordir deheuol o Foel y Don i Lyn Rhos Ddu yn ne orllewin yr ynys, penderfnwyd grwydro tua’r dwyrain o dan y ddwy bont yr wythnos yma er mwyn ceisio cwblhau darn deheuol y llwybr.

Yn anffodus, mae ‘na fwlch bach yn y llwybr arfordirol rhwng Moel y Don ar ochr orllewinol Plas Newydd a Phwllfannog, sydd ar yr ochr ddwyreiniol. ‘Dyw’r llwybr ddim yn cael troedio ar draws dir yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol felly mae’n rhaid ail-gychwyn ar y llwybr ym Mhwllfannog.

‘Da ni wedi dod ar draws sawl tŷ godidog ar y daith yma’n barod ond mae’r tai ger y man cychwyn ym Mhwllfannog yn arallfydol … yn enwedig yr un sydd â chwch anferth wedi ei barcio y tu allan i’r tŷ!

Mae’r llwybr yn troedio’n syth i lawr at lan yr afon ac mae’r golygfeydd ar hyd yr afon heibio’r ddwy bont yn hyfryd.

Mae gweddill teulu Pritchard yn tueddu i fynd yn flin efo fi pan ‘da ni allan yn cerdded gan bo fi’n mynnu stopio yn llawer rhy aml er mwyn tynnu lluniau ac mae’n anodd credu fod ‘na gymal o’r llwybr sydd efo nifer fwy o gyfleon tynnu lluniau trawiadol – yn enwedig lle mae pensarniaeth godidog y pontydd yn wrthgyferbyniad llwyr i’r tirwedd a’r afon gerllaw.

Ar ôl pasio cefn yr hen ysgol forwrol, TS Indefatigable, mae’r llwybr yn parhau ar hyd lan yr afon gan basio cerflun o’r Llyngesydd Nelson a godwyd yn y 1850au gan yr Arglwydd Henry Paget, 4ydd Marquis Sir Fôn – mab y Marquis sydd ar ben y tŵr enwog yn Llanfairpwll.

Mae’r geiriau “Fell at Trafalgar 1805. England expects that every man will do his duty” wedi eu naddu i’r graig o dan y cerflun sydd yn rhoi rhyw fath o syniad i chi faint o wladgarwr oedd Henry Paget annwyl!

Wedi gadael Nelson yn syllu allan at y Fenai, mae’r llwybr yn esgyn tuag at eglwys Santes Fair a’i fynwent hynafol cyn troi i lawr am Bont Britannia a’i “Dau Lew Tew, Heb ddim blew” enwog. Yn anffodus mae’r cyfle i dynnu llun wedi ei gyfyngu braidd oherwydd yr holl graffiti anweddus sydd o amgylch y llewod a pileri’r bont.

Roedd y plantos wrth eu boddau’n pwyntio a gofyn beth oedd y gwahanol eiriau yn eu feddwl … fel tasa nhw erioed wedi clywed y geiriau o’r blaen!

Wrth droi cefn ar y graffiti a chychwyn am Bont y Borth mae’r llwybr yn rhodio ar hyd blatfformau pren trwy Goed y Môr ac mae ‘na ddigonedd o goed i’w dringo a llefydd cael picnic … pan fo’r tywydd yn well!

Yn anffodus, bui rhaid i Robin a Carlo ein gadael am gyfnod gan nad yw cŵn yn cael cerdded trwy Gae Glan Môr – a thra bo’r ddau ohonnyn nhw yn ei heglu hi am y brif ffordd, cafod y gweddill o’r criw hwyl a sbri yn croesi’r caeau mwyaf mwdlyd ar y daith hyd yma!

Yn wir, roedd ceisio croesi un darn o fwd anferthol a’r giât mochyn yn ei ganol yn fwy o her nag unrhyw beth ar y Krypton Factor ers talwm! Oni bai fod Ed wedi rhoi “help llaw” i Sonia, dwi’n siwr y buasa hi’n dal yna hyd heddiw yn hongian ar y giat yn cwyno bod na’m ffordd iddi ddod i lawr!!

Ar ôl ail ymuno â Robin a Carlo a cherdded ar hyd y ffordd tuag at tref Porthaethwy daeth y dafarn i’r golwg … ond mae’r llwybr yn troi yn ôl allan o’r dref heibio i’r clwb rygbi ac allan am Eglwys Sant Tysilio sydd ar ynys fechan yn y Fenai – bydd rhaid i’r beint ‘na ddisgwyl am ugain munud arall!

Mae fy hen, hen daid wedi ei gladdu ym mynwent Sant Tysilio ond ‘dy ni, fel teulu, wedi methu dod o hyd i’r bedd, a ‘da ni ddim yn siwr ychwaith pam ei fod wedi gladdu yma gan mai o Gaergybi y daw y teulu.

Ar ôl cerdded heibio i’r eglwys mae’r hen Bont y Borth yn dod yn fwy fwy amlwg tan eich bod o dan y pileri anferth ac yn rhyfeddu at y prosiect peirianneg anhygoel yma o’r 1820au cyn troi am sgwâr Porthaethwy … a’r dafarn. Cyfle felly am y peint holl bwysig ‘na … a diwedd y gêm rygbi wirion ‘na!

Dau lew tew …

Un Llew Tew

Un Llew Tew

Wel – dyma fi yn blogio yn syth ar ôl dychwelyd adra o daith rhif 4 … am hanner awr wedi unarddeg yn nos! Naci – nid taith yn y tywyllwch mohoni – ond taith gychwynodd yn hwyr y pnawn cyn gorffen yn Tafarn y Bont ac yna sgwrs a phaned yn Dothan!

Beth bynnag – dyma daith ddifyr i fan lle na fues i rioed o’r blaen – o dan y ddwy bont enwog sy’n croesi i Sir Fôn. A’r uchafbwynt? Y ddau lew tew… chwi wyddoch weddill y bennill!

Roedd bod o dan y bont yn brofiad eitha gwahanol i’r disgwyl gyda graffiti a sbwriel yn tynnu llygaid yn gymaint a’r ddau lew tew! Ond profiad difyr iawn oedd gweld y ddwy bont o ogwydd wahanol.

Mae’n rhaid cyfaddef fod un olygfa wedi peri i ni gyd aros yn llonydd am eiliadau – a hynny oedd wedi cyrraedd traed y bont a gwylio’r llif pwerus yn byrlymu oddi tani. Anhygoel!  ‘Does ryfedd fod gymaint o sôn am gerynt cyfnewidiol a pheryg  y Fenai.

Dipyn yn fwdlyd a glawog oedd diwedd y daith – ac roedd cynhesrwydd Tafarn y Bont yn hynod groesawus. Dwi di gaddo rhoi cofnod o ddanteithion y daith do – wel oni bai am ychydig o deisennau cri cartra – doedd dim llawer o loddesta ar y daith heddiw felly roedd pawb yn hen barod am bryd bwyd.

Os gewch chi’r cyfle – peidiwch ag oedi i fynd am yr ‘early bird’ yno, sef pryd dau gwrs am £14. Paté a stêc oedd dewis y mwyafrif – a bob tamaid yn hynod o flasus (hyd yn oed i snob bwyd fel fi!!). Neis iawn, iawn.

Mae’n wir deud fod y crwydro ma yn cyflawni sawl adduned – mwy o amser efo’r plant, mwy o awyr iach, mwy o gadw’n heini, mwy o gwmni ffrindiau … mwy o win a mwy o fwyd!

Tan tro nesa … nos da ! xx

Twrci oer ..!

Mae’n od sut bod rhywbeth yn gafael yn dydi? Hyd at dechrau’r flwyddyn yma, byddwn ni’n mynd i gerdded tua unwaith y mis fel teulu, ac yn amlach na pheidio, byddwn ni’n mynd am dro ar hyd yr un llwybr yn ardal Rhoscolyn.

Ifan ar y Llwybr Arfordirol ... blynyddoedd yn ôl!

Ifan ar y Llwybr Arfordirol ... blynyddoedd yn ôl!

Yn wir, wrth chwilio trwy fy nghyfrif flickr mae ‘na sawl set o luniau o’r darn yma o’r Llwybr Arfordirol – mae na luniau o Rhoscolyn yn y gwanwyn yr holl ffordd trwodd i luniau o Rhoscolyn yn y gaeaf.

Ac fel mae’r llun yma o Ifan yn ifanc iawn yn ei ddangos, ‘da ni wedi bod yn cerdded y darn yma o’r llwybr ers blynyddoedd maith!

Ond erbyn hyn, diolch i Ceri a’r teulu Thomas (a Prosiect 2012) ‘da ni wedi bod yn cerdded yn llawer amlach. ‘Da ni wedi bod allan pob penwythnos ers dechrau’r flwyddyn ac wedi gweld ardalaoedd gwahanol o’r ynys.

Mae bore Sul wedi troi yn fore cynnar yn tŷ ni.

Does ‘na neb yn aros yn y gwely yn hwyr, mae pawb yn codi ac yn sydyn iawn i wneud eu jobsys o gwmpas y tŷ cyn i ni baratoi cinio bach a phacio’r rucksack ar gyfer y daith wythnosol.

Ond, oherwydd trip ysgol Ifan a Rhys i Lanelli dros y Sul a gan bo fi’n gweithio, ni chafwyd taith gerdded dydd Sul diwethaf … a ‘da chi’n gwbod be, ‘dwi ‘di bod ar goll!

Nid yn unig bo fi wedi colli’r awyr iach, y golygfeydd, y sgwrs, y chwerthin, y gwmniaeth a’r tynnu lluniau … ‘dwi hyd yn oed wedi colli jôcs sâl Tosh!

Ac, yn od iawn, ‘dwi wedi colli diweddaru’r blog hefyd – mae hi’n edrych braid yn rhyfedd yma heb gofnod ers wythnos er ein bod ni heb fod allan ar daith gerdded.

Felly er mwyn poblogeiddio’r blog yn absenoldeb unrhyw daith, mae’r plant wedi addo ‘sgwennu cofnod yr un i ni … dim pwysau blantos, ond mae’r darllenwyr yn disgwyl!