Oriel: Moel-y-don i’r Sŵ Môr

Crwydro, bwyta ac yfed!

Wel dyma’r tro cyntaf erioed i mi sgwennu blog – ac os ydio hanner mor heintus a’r prosiect crwydro hyd yn hyn – yna allai’m disgwyl i neud mwy. Hogan ffarm ydwi yn y bôn ac ers i ni werthu fy nghartref , rhai blynyddoedd yn ôl bellach, mae unrhyw grwydr i gefn gwlad yn falm i’r galon.

Fel hogan ffarm , mae bwyd hefyd yn bwysig pan fo ffrindiau o gwmpas – a dyma dwi am drio ychwanegu i’r blog yma sef blas i chi ar fwydydd a bwytai ar hyd y daith.

Fel teulu, mae taith Rhoscolyn yn achlysur cyson gan fod y ‘White Eagle’ yn dynfa ar ei diwedd. Fy nghyngor i fyddai i wneud y daith hon yn y Gaeaf os am ymwled a’r dafarn arbenig hon (dydi’r lle ddim cweit run fath ym mwrlwm ymwelwyr yr Haf). Diflanodd y gin a tonic cyntaf yn reit handi , cyn sipian Sauvignon Blanc oer a blasus wedyn. Y cwbl yn bartner perffaith i ginio dydd Sul Porc gyda thatws rhôst  a chutney afalau – oedd chydig yn anghyffredin hefo cinio Sul – ond yn neis iawn.

Ar ôl methu penderfynnu pa bwdin i’w gael – dyma fynd am yr opsiwn o gael darn bach o bob un (pudding platter) – difyr iawn ! Ew mi oedd o’n dda ! Mae rywbeth i bawb yn y ‘White Eagle’ – digon o ddewis i’r plant hefyd, ac er ei fod yn ddrud braidd – mae’r olygfa, y bwyd a theimlad  y lle werth bob ceiniog.

Stori wahanol oedd yr ail daith o Moel y Don i Frynsiencyn a hynny oherwydd y rygbi. Gan fod Ifan y mab yn chwarae rygbi tan hanner dydd – dyma benderfynu mynd yn ‘Beryl’ (gweler y lluniau) a chythru ati i wneud cawl i bawb er mwyn i ni gael rywbeth i fwyta cyn cychwyn. Neidio i waelod yr oergell – gafael mewn cenin, nionod, celery a sprouts (‘doedd neb ddim callach!!) chydig o bys o’r rhwegell, stoc llysiau – wizz sydyn hefo’r blender – ac off a ni hefo sosbenaid anferth o gawl gwyrdd blasus (wir yr!!). Dyma ychwanegu bara, ham, shortbread a siocled i’r picnic a dyna ni – gwledd!

Llond sosban o gawl!

Llond sosban o gawl!

Roedd hon yn daith gerdded fendigedig yn cynnwys chydig o bob dim – caeau, llwybrau coediog, lan môr caregog, caeau rwdins, (yn union fel rhai Dyfriar er talwm), giatiau mochyn a dwy gamlas hen ffashiwn.

Roedd gorffen y daith gyda phaned boeth yn Beryl yn glo hyfryd i brynhawn heulog ond oer yn cerdded glan y Fenai. Pawb efo boliau llawn a bochau coch!

Lle nesa hogs? O ia – ma rhaid i mi gofio prynnu ‘hip flask‘ ar gyfer gweddill teithiau y Gaeaf – yn bydd Ed !

 

Moel-y-don i’r Sŵ Môr

Man cychwyn: Maes Parcio Moel-y-don (SH 518 677)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo a Nel
Amser: Dydd Sul 15 Ionawr: 1400 – 1540
Tywydd: Heulog
Pellter: 3 milltir

Er mai Ceri oedd i fod i gymryd yr awenau yr wythnos yma, fi wnaeth y penderfyniad i chwilio am lwybr ar hyd arfordir de’r ynys ar ôl i ni brynu map newydd – dim bod Ceri yn poeni rhyw lawer, dwi’n meddwl bod hi wedi derbyn fy mod i’n dipyn o ‘control freak‘!

Roedd na aelodau newydd i’r tim yr wythnos yma hefyd. Roedd Robin (neu Tosh i’w ffrindiau) wedi trydar yn ystod yr wythnos ei fod o’n ffansi ymuno yn Prosiect 2012 … er dwi’n amau’n fawr iawn bod Sonia – gwraig Tosh – yn ymwybodol o’r cynllun i gwblhau’r llwybr!

Yn ogystal â Tosh a Sonia, roedd ‘na ddau arall ar y daith brynhawn Sul hefyd – Carlo, ci Tosh a Sonia – a Nel, ci teulu Thomas. Yn anffodus, roedd ‘na fwy o ffraeo a checru rhwng Carlo a Nel na rhwng unrhyw un o aelodau eraill y tîm, ac mae hynny’n cynnwys y ddau frawd a chwaer!

Roedd Mari wedi paratoi cawl swmpus i bawb oedd ar y daith … wel, a bod yn onest, roedd ‘na ddigon o gawl i fwydo hanner Brynsiencyn … a gyda Beryl (VW Camper teulu Pritchard) yn dod ar ei thaith cyntaf, cafodd pawb wledd o fwyd ym maes parcio Moel-y-don cyn cychwyn!

 

Cychwyn o Foel-y-don

Cychwyn o Foel-y-don

Mae angen dringo yn ôl i fyny’r lôn o’r maes parcio er mwyn cychwyn ar y daith, ond ar ôl cerdded ar hyd llwybr tarmac am rhyw filltir, mae’r llwybr yn fforchio i’r chwith ac i’r dde – y llwybr i’r chwith sydd yn mynd ar hyd lan yr Afon Menai a hon ydi’r llwybr byddwn i’n ei argymell gan fod y cymal ar hyd y traeth caregog yn un hyfryd.

Gyda chanolfan chwaraeon dŵr cenedlaethol Plas Menai ar ochr draw’r Fenai, roedd sawl cwch hwylio i’w gweld yn rasio i fyny ac i lawr yr afon ac mae’n hawdd gweld pam fo’r rhan yma o’r byd mor boblogaidd gydag ymwelwyr … ac mae’n syndod pam ein bod ni’n cymryd ein milltir sgwâr mor ganiataol.

Wedi i’r cwn drochi yn y dŵr … wel, Nel aeth i nofio, doedd Carlo ddim mor keen … ac ar ôl cystadleuaeth sgimio cerrig mae’r llwybr yn troi am y caeau uwchben yr afon heibio i fferm Llan Idan. Peidiwch a phoeni eich bod chi wedi colli’r llwybr, mae’r gamfa ym mhen draw’r cae, ond byddwch yn ofalus lle ‘da chi’n troedio – mae’r cow pats yn rhai fresh iawn!

Wrth gerdded trwy’r caeau tu ôl i Blas Trefarthen mae pen y daith yn amlwg yn y pellter, ac mae’r golygfeydd tuag at Gaernarfon ar ochr draw y Fenai yn odidog … a thra bo Mari wedi casglu sawl rwdan o’r cae ac wedi fy ngorfodi i’w llusgo adref yn y rucksack, dwi’n amau’n gryf y bydd hi’n ei defnyddio i goginio!

Yn anffodus, doedd ‘na’m tafarn i ni yr wythnos yma, dim ond panad sydyn yn Beryl … ac roedd rhaid yfed y banad ar ôl i Ceri fynd i gymaint o drafferth i olchi’r cwpanau yn nŵr yr afon!!

 

Da ni di cael map newydd!

Dwi wrth fy modd efo maps … dwn i ddim os mai fi ydi’r unig un, ond does ‘na’m byd gwell ‘na darllen atlas neu fap a breuddwydio am yr holl lefydd y gallwch chi ymweld â nhw. Mae’r enwau, y symbolau, y lliwiau, y llwybrau … popeth am fapiau … yn gychwyn ar antur.

Mae pori trwy dudalenau atlas a darganfod dinasoedd fel Ulan Bator, Almaty a Tashkent yn ddigon i godi chwant teithio ar unrhyw un, ac mae pawb wedi creu un o’r mapiau ‘na lle ‘da chi yn gweithio allan faint o ganran o wledydd y byd ‘da chi wedi bod, do ..? Be ‘da chi’n feddwl naddo?? *

Beth bynnag, fel ddudes i, dwi wrth fy modd efo maps a gan ein bod ni wedi derbyn yr her arbennig yma gan y teulu Thomas, yna mae angen mapiau … unrhyw esgus!

Mae map gorllewin Ynys Môn gennym ni yn barod, felly ar ôl prynnu map dwyrain yr ynys a phori trwyddo, ‘da ni wedi penderfynu mai taith ar hyd de’r ynys yng nghyffiniau Brynsiencyn sydd o’n blaenau ni penwythnos nesa.


* [18% o wledydd y byd / 82% o wledydd Ewrop … rhag ofn bo chi eisiau gwybod!]

 

Lle nesa’ ..?

Wel, mae’r prosiect wedi cydio cymaint yn y plant nes bod ‘na gwestiwn bob yn ail diwrnod bron!

“Lle ‘da ni’n mynd dydd Sul yma?” … “Yda ni am fynd i Moelfre?” … “Beth am fynd dros Mynydd Caergybi?” … “Yda ni dal yn mynd hyd yn oed os ydi hi’n bwrw?”

Cymaint o gwestiynau, ond o leiaf mae’r plant yn dangos diddordeb – cymaint nes bod fi wedi gorfod creu cyfrifon iddyn nhw ‘sgwennu ar y blog hefyd! Felly edrychwch ymlaen i gael argraffiadau Ifan, Rhys, Gwenno a Megan yn ogystal a gweddill y cerddwyr!

Gormod o awyr iach ..?

… neu gormod o win gwyn ..?

Dyma sy’n digwydd os ‘da chi’n yfed y botel cyntaf o win yn rhy sydyn ar ôl cymaint o awyr iach!

Oriel: Cylchdaith Rhoscolyn

Teulu arall …

Mae’n edrych yn debyg bod ‘na deulu arall yn barod i dderbyn yr her hefyd!

Cylchdaith Rhoscolyn

Man cychwyn: Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn (SH 268 757)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno
Amser: Dydd Sul 08 Ionawr: 1500 – 1620
Tywydd: Cymylog
Pellter: 5 milltir (2½ filltir ar hyd y llwybr)

Felly dyma fwrw ati efo’r cymal cyntaf o Prosiect 2012 a gan bo fi wedi fy nethol fel team leader Teulu Pritchard fi oedd â’r fraint o ddewis pa ran o’r llwybr oedd yn cael ei gerdded gyntaf.

Gyda 125 milltir o lwybr i’w droedio, dyma feddwl mai’r lle gorau i ni gychwyn fyddai ar y stepen drws ac ar lwybr ‘da ni, fel teulu, wedi ei droedi sawl tro, sef y cymal o Eglwys Santes Gwenfaen yn Rhoscolyn tuag at Bwa Du ac ar hyd yr arfordir yr holl ffordd i draeth Rhoscolyn.

Wrth gwrs, y peth gorau am ddewis y darn yma o’r llwybr yw bod modd gorffen y daith arbennig yma yn nhafarn y White Eagle!

Mae’r Teulu Pritchard yn cerdded y rhan yma o’r llwybr o leiaf dwywaith y mis a’r tro diwethaf i ni ei throedio oedd yn ystod y gwynt a’r glaw ar brynhawn Nos Calan, ond er eu bod nhw’n byw mor agos, doedd y Teulu Thomas erioed wedi bod ar hyd y llwybr arbennig yma.

Cyn cychwyn ar y daith, mae’n rhaid cael ychydig bach o hanes yr eglwys a’i henw … be ‘da chi’n feddwl “nagoes“?

Merch Pawl Hen o Fanaw oedd Gwenfaen ac, yn ôl y chwedl, llwyddodd i ddianc rhag y derwyddon oedd yn ei herlid trwy ddringo creigiau Rhoscolyn. Yn anffodus iddi hi, fe ddaeth y llanw i mewn, ond cafodd ei chludo oddi yno gan angylion, a dyna pam y gelwir y bae yn Porth Saint.

Rwan eich bod chi’n gwybod bach o hanes yr eglwys, gallwch gerdded yn eich blaenau tuag at fferm Tywirdeen lle mae’r llwybr yn eich tywys ar hyd y caeau ac allan tuag at Bwa Gwyn a Bwa Du.

Heibio i’r ddau fwa mae cofeb i Tyger y ci dewr lwyddodd i achub bywyd pedwar o longwyr ar ôl i’w llong ddryllio yn erbyn creigiau Maen Piscar. Er achub y llongwyr, bu’r ci bach farw, ond er mwyn dangos ei werthfawrogiad, fe dalodd capten y llong am gofeb i’r ci gyda’r geiriau TYGER, September 17th, 1819.

Ymlaen tuag at Porth Gwalch mae Ffynnon Gwenfaen, sef ffynnon hynafol syd wedi ei suddo i’r tir gyda sedd ym mhob cornel. Credir fod modd gwella salwch meddwl tryw daflu dwy garreg wen i’r pwll dŵr yma.

Beth bynnag, dyna ddigon o wers hanes am y tro! Ar ôl esgyn i frig y copa ger cwt Gwylwyr y Glannau mae’r llwybr yn disgyn yn ôl i lawr trwy’r caeau ac heibio i’r tai mawr crand at lan y môr Rhoscolyn.

Ar ôl cyraedd y traeth, dim ond cam a naid sydd i fynd nes bo’r peint cyntaf ‘na yn cael ei dollti ar far y White Eagle … mynhewch!

Prosiect 2012

Wel, mae’n rhywbeth ‘da ni, fel teulu, wedi bod yn ystyried ei gwblhau ers tro byd ond dim ond pan cawsom ni’r neges yma gan Ceri yn gofyn os oedden ni’n “barod am her” y gwnaethpwyd unrhywbeth am y sefyllfa!

Yr her mae Ceri’n sôn amdano – yr hyn ‘da ni … wel, hi … wedi’i alw yn Prosiect 2012 – yw bod Teulu Pritchard a Teulu Thomas yn cwblhau’r llwybr 125 milltir o hyd sy’n amgylchynu Ynys Môn, sef Llwybr Arfordirol Ynys Môn.

Wrth gwrs, cyn estyn am y sannau trwchus, y ‘sgidiau cerdded a’r gôt law, y peth cyntaf nes i oedd bwrw ati i greu blog – rhywbeth roedd gweddill y criw yn ei weld yn beth digon od i’w wneud, ond i mi, dyma oedd y peth naturiol i’w wneud siwr iawn!

Byddwn yn diweddaru’r blog gyda manylion o’n anturiaethau ar wahanol cymalau’r daith ac y rhannu’n lluniau, ein profiadau a’n argraffiadau a byddwn ni wrth ein boddau i gael clywed gan unrhyw un sydd am rannu eu profiadau nhw o’r llwybr hefyd!