Archif y blog

Twrci oer ..!

Mae’n od sut bod rhywbeth yn gafael yn dydi? Hyd at dechrau’r flwyddyn yma, byddwn ni’n mynd i gerdded tua unwaith y mis fel teulu, ac yn amlach na pheidio, byddwn ni’n mynd am dro ar hyd yr un llwybr yn ardal Rhoscolyn.

Ifan ar y Llwybr Arfordirol ... blynyddoedd yn ôl!

Ifan ar y Llwybr Arfordirol ... blynyddoedd yn ôl!

Yn wir, wrth chwilio trwy fy nghyfrif flickr mae ‘na sawl set o luniau o’r darn yma o’r Llwybr Arfordirol – mae na luniau o Rhoscolyn yn y gwanwyn yr holl ffordd trwodd i luniau o Rhoscolyn yn y gaeaf.

Ac fel mae’r llun yma o Ifan yn ifanc iawn yn ei ddangos, ‘da ni wedi bod yn cerdded y darn yma o’r llwybr ers blynyddoedd maith!

Ond erbyn hyn, diolch i Ceri a’r teulu Thomas (a Prosiect 2012) ‘da ni wedi bod yn cerdded yn llawer amlach. ‘Da ni wedi bod allan pob penwythnos ers dechrau’r flwyddyn ac wedi gweld ardalaoedd gwahanol o’r ynys.

Mae bore Sul wedi troi yn fore cynnar yn tŷ ni.

Does ‘na neb yn aros yn y gwely yn hwyr, mae pawb yn codi ac yn sydyn iawn i wneud eu jobsys o gwmpas y tŷ cyn i ni baratoi cinio bach a phacio’r rucksack ar gyfer y daith wythnosol.

Ond, oherwydd trip ysgol Ifan a Rhys i Lanelli dros y Sul a gan bo fi’n gweithio, ni chafwyd taith gerdded dydd Sul diwethaf … a ‘da chi’n gwbod be, ‘dwi ‘di bod ar goll!

Nid yn unig bo fi wedi colli’r awyr iach, y golygfeydd, y sgwrs, y chwerthin, y gwmniaeth a’r tynnu lluniau … ‘dwi hyd yn oed wedi colli jôcs sâl Tosh!

Ac, yn od iawn, ‘dwi wedi colli diweddaru’r blog hefyd – mae hi’n edrych braid yn rhyfedd yma heb gofnod ers wythnos er ein bod ni heb fod allan ar daith gerdded.

Felly er mwyn poblogeiddio’r blog yn absenoldeb unrhyw daith, mae’r plant wedi addo ‘sgwennu cofnod yr un i ni … dim pwysau blantos, ond mae’r darllenwyr yn disgwyl!

 

 

Peidiwch a bod yn ddiarth!

Ers i ni ddechrau cadw cofnod o’n ymwelwyr i’r blog bondigrybwyll yma, mae ‘na 141 o bobl wedi galw heibio i ddarllen, edrych ar y lluniau neu busnesa’n gyffredinol.

Mae’n rhaid cyfaddef fod hynny’n hollol anghredadwy – roedden ni’n meddwl mai dim ond ein criw ni o gerddwyr fyddai’n trafferth dod draw i ddarllen ein ramblings am y ramblo! A ‘da ni’n hynod o falch bod na bobl allan yna sy’n amlwg â diddordeb yn ein taith … wel, un a’i hynny neu mae nhw wedi teipio rhywbeth od iawn i mewn i google!

Beth bynnag, mi fyddai’r criw wrth eu boddau pe bydde chi’n gadael rhyw neges bach i ni ar y cofnodion, ac efallai y gallwch chi adael i ni wybod os oes gennych chi hoff ddarn o’r llwybr neu hoff dafarn sydd yn ddigon agos at y llwybr i ni ymweld â hi!