Archif y blog

Gwaith Brics Porth Wen

Gwaith brics Porth Wen

Gwaith brics Porth Wen

Ar y daith gerdded rhwng Porth Amlwch a Chemaes mae modd gweld un o safleoedd diwydianol hanesyddol Ynys Môn wrth basio hen waith brics Porth Wen.

Mae’n warthus i feddwl, er fy mod wedi byw ar yr Ynys am y rhan helaeth o fy mywyd … ac wedi byw am gyfnod yng Nghemaes, cwta dwy filltir o Borth Wen … nad oeddwn i yn ymwybodol o fodolaeth yr hen waith brics!

Felly dyma fwrw ati i ddarganfod mwy am y safle er mwyn addysgu fy hun … ac Ifan, sydd wedi bod yn holi am y lle ers ddydd Gwener!

Sefydlwyd y gweithle yn y 1850au gan fod cyflenwad anferth o fwyn silica yn y graig cwarts gerllaw a chan fod brics silica yn gallu gwrthsefyll gwres tanbaid, roedd ‘na alw mawr amdanynt gan y diwydiant dur er mwyn adeiladu ffwrnesi ac odynau.

Mae’n rhaid talu teyrnged i ddyfeisgarwch pobl yr oes Fictoraidd lwyddodd i harnesu grym disgyrchiant i brosesu’r gwaith. Roedd y mwyn yn cael ei gloddio ar y penrhyn uwchben y gwaith cyn disgyn i lawr i droed y clogwyn lle roedd y brics yn cael eu siapio, eu sychu a’u tanio yn yr odynau.

Yn wahanol i Fynydd Parys, lle roedd y copr yn cael ei gludo i Borth Amlwch, penderfynwyd adeiladu harbwr fechan ym Mhorth Wen er mwyn cludo’r brics yn syth allan o’r gweithle.

Ond, er safon y brics, roedd sawl perchennog yn gwrthod caniatau i’w llongau angori yn yr harbwr oherwydd y peryglon o fod mewn harbwr mor fychan pan fo tywydd garw’n bygwth.

Erbyn dechrau’r Rhyfel Mawr roedd safon y gwaith wedi dirywio hefyd – yn ôl y chwedl leol, roedd hyn oherwydd anghydfod rhwng perchennog y gwaith a’i giaffar – a chyn diwedd 1914, roedd y gwaith wedi cau.

Bron i gan mlynedd yn ddiweddarach, mae sgerbwd y gweithle yn parhau i frwydro yn erbyn yr elfennau a chyda’r bae yn llawn o hen frics sy’n prysur erydu’n ôl i’w cyflwr gwreiddiol, mae’r olygfa yn un hynod o drawiadol sydd werth pob cam o’r daith o Borth Amlwch!

Pwllfannog i Porthaethwy

Pwllfannog i Porthaethwy

Man cychwyn: Pwllfannog, Llanfairpwll (SH 530 708)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo
Amser: Dydd Sul 12 Chwefror: 1430 – 1610
Tywydd: Cymylog gydag ychydig o law mân
Pellter: 3 milltir

Wedi dyddiau Sul digon diflas heb yr un o’n teithiau cerdded fe lwyddom ni i droedio’r llwybr unwaith eto ddydd Sul er gwaetha’r tywydd ac er gwaetha’r ffaith bod na ambell i aelod o’r criw eisiau gweld rhyw gêm rygbi neu’i gilydd!

Ar ôl crwydro ar hyd yr arfordir deheuol o Foel y Don i Lyn Rhos Ddu yn ne orllewin yr ynys, penderfnwyd grwydro tua’r dwyrain o dan y ddwy bont yr wythnos yma er mwyn ceisio cwblhau darn deheuol y llwybr.

Yn anffodus, mae ‘na fwlch bach yn y llwybr arfordirol rhwng Moel y Don ar ochr orllewinol Plas Newydd a Phwllfannog, sydd ar yr ochr ddwyreiniol. ‘Dyw’r llwybr ddim yn cael troedio ar draws dir yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol felly mae’n rhaid ail-gychwyn ar y llwybr ym Mhwllfannog.

‘Da ni wedi dod ar draws sawl tŷ godidog ar y daith yma’n barod ond mae’r tai ger y man cychwyn ym Mhwllfannog yn arallfydol … yn enwedig yr un sydd â chwch anferth wedi ei barcio y tu allan i’r tŷ!

Mae’r llwybr yn troedio’n syth i lawr at lan yr afon ac mae’r golygfeydd ar hyd yr afon heibio’r ddwy bont yn hyfryd.

Mae gweddill teulu Pritchard yn tueddu i fynd yn flin efo fi pan ‘da ni allan yn cerdded gan bo fi’n mynnu stopio yn llawer rhy aml er mwyn tynnu lluniau ac mae’n anodd credu fod ‘na gymal o’r llwybr sydd efo nifer fwy o gyfleon tynnu lluniau trawiadol – yn enwedig lle mae pensarniaeth godidog y pontydd yn wrthgyferbyniad llwyr i’r tirwedd a’r afon gerllaw.

Ar ôl pasio cefn yr hen ysgol forwrol, TS Indefatigable, mae’r llwybr yn parhau ar hyd lan yr afon gan basio cerflun o’r Llyngesydd Nelson a godwyd yn y 1850au gan yr Arglwydd Henry Paget, 4ydd Marquis Sir Fôn – mab y Marquis sydd ar ben y tŵr enwog yn Llanfairpwll.

Mae’r geiriau “Fell at Trafalgar 1805. England expects that every man will do his duty” wedi eu naddu i’r graig o dan y cerflun sydd yn rhoi rhyw fath o syniad i chi faint o wladgarwr oedd Henry Paget annwyl!

Wedi gadael Nelson yn syllu allan at y Fenai, mae’r llwybr yn esgyn tuag at eglwys Santes Fair a’i fynwent hynafol cyn troi i lawr am Bont Britannia a’i “Dau Lew Tew, Heb ddim blew” enwog. Yn anffodus mae’r cyfle i dynnu llun wedi ei gyfyngu braidd oherwydd yr holl graffiti anweddus sydd o amgylch y llewod a pileri’r bont.

Roedd y plantos wrth eu boddau’n pwyntio a gofyn beth oedd y gwahanol eiriau yn eu feddwl … fel tasa nhw erioed wedi clywed y geiriau o’r blaen!

Wrth droi cefn ar y graffiti a chychwyn am Bont y Borth mae’r llwybr yn rhodio ar hyd blatfformau pren trwy Goed y Môr ac mae ‘na ddigonedd o goed i’w dringo a llefydd cael picnic … pan fo’r tywydd yn well!

Yn anffodus, bui rhaid i Robin a Carlo ein gadael am gyfnod gan nad yw cŵn yn cael cerdded trwy Gae Glan Môr – a thra bo’r ddau ohonnyn nhw yn ei heglu hi am y brif ffordd, cafod y gweddill o’r criw hwyl a sbri yn croesi’r caeau mwyaf mwdlyd ar y daith hyd yma!

Yn wir, roedd ceisio croesi un darn o fwd anferthol a’r giât mochyn yn ei ganol yn fwy o her nag unrhyw beth ar y Krypton Factor ers talwm! Oni bai fod Ed wedi rhoi “help llaw” i Sonia, dwi’n siwr y buasa hi’n dal yna hyd heddiw yn hongian ar y giat yn cwyno bod na’m ffordd iddi ddod i lawr!!

Ar ôl ail ymuno â Robin a Carlo a cherdded ar hyd y ffordd tuag at tref Porthaethwy daeth y dafarn i’r golwg … ond mae’r llwybr yn troi yn ôl allan o’r dref heibio i’r clwb rygbi ac allan am Eglwys Sant Tysilio sydd ar ynys fechan yn y Fenai – bydd rhaid i’r beint ‘na ddisgwyl am ugain munud arall!

Mae fy hen, hen daid wedi ei gladdu ym mynwent Sant Tysilio ond ‘dy ni, fel teulu, wedi methu dod o hyd i’r bedd, a ‘da ni ddim yn siwr ychwaith pam ei fod wedi gladdu yma gan mai o Gaergybi y daw y teulu.

Ar ôl cerdded heibio i’r eglwys mae’r hen Bont y Borth yn dod yn fwy fwy amlwg tan eich bod o dan y pileri anferth ac yn rhyfeddu at y prosiect peirianneg anhygoel yma o’r 1820au cyn troi am sgwâr Porthaethwy … a’r dafarn. Cyfle felly am y peint holl bwysig ‘na … a diwedd y gêm rygbi wirion ‘na!

Mwy o Tony Christie na Linford Christie

Dim bod dyn eisiau chwythu ei drwmped ei hun, ond pan oeddwn i’n iau, roeddwn i’n dipyn o wibiwr!

Dydi’r plant ddim yn fy nghoelio pan bo fi’n dweud mod i wedi rhedeg y 100m dros ysgolion Ynys Môn … wel, pan dwi’n dweud bo fi di “rhedeg y 100m”, aelod o’r tîm 4×100 oeddwn i i fod yn fanwl gywir … roedd Vivian o Aberffraw yn llawer cyflymach na fi, a fo oedd y dewis cyntaf i redeg y 100m … but I digress, fel ‘sa’r Sais yn ei ddeud.

Y ffaith ydi, er nad oeddwn i erioed yn mynd i wisgo fest goch a chynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, doeddwn i ddim chwaith yn foi araf pan oedd hi’n dod i ras! Ond pam mae hwn yn mwydro am ei record dros 100m o tua 20 mlynedd yn ôl, medde chi? Wel brynhawn Sul, roedd gen i ras go wahanol ar fy nwylo, sef ras yn erbyn y camera!

Wrth gyrraedd y Cerrig Croesi ar draws yr Afon Braint, roedd rhaid i ni gael llun o’r 10 ohonnom ni ar y cerrig – mae hi’n photo opportunity heb ei ail ar y Llwybr Arfordirol i chi gael deall – ond er mwyn gwneud hynny, roedd angen gosod y timer ar y camera ac yna rhedeg i sefyll yn y llun ochr yn ochr â phawb arall … hawdd … wel, ia, dyna oeddwn i’n ei feddwl hefyd …

‘Dwin licio dŵr, chi !

Omaigwdness, here we go – fel mae’r Saeson yn ddweud. Fedrai ddim dweud wrthych pam mor nerfus ydw’i yn sgwennu dipyn o eirau ar y blog ‘ma. Ar ôl darllen cyfraniadau gwych gan Gary a Mari, gyda’u dawn naturiol o ddefnyddio iaith a gramadeg perffaith (Mae’r ddau wedi cael coleg i chi gael dallt!) Mae’n dipyn o dasg. Ond ar ol gymaint o swnian “lle mae dy blog di Ceri?” (abuse bron ddyddiol gan rhai!) dwi yn mynd i gael go!

Plantos ar grwydr

Plantos ar grwydr

Felly, ella ‘sa well i mi gychwyn wrth egluro pam nes i awgrymu i ni wneud y daith o gwmpas arfordir Sir Fôn yn y lle cyntaf? Wel, fel rhiant i ddau o “Tweens” (pre tennage – i’r rhai sydd ddim yn dallt y lingo) un o fy mhryderon mwyaf  i ydi ei bod nhw yn suddo fwy a fwy i mewn i fywyd digidol  – lle mae pob eiliad rhydd yn cael ei dreulio un ai o flaen teledu, play station neu ynghlwm i’w ffôn neu iPod!

Dwi yn gweld y blynyddoedd yn hedfan heibio mor sydyn.  Dwi’n ofni  byddai’n deffro un bore a fydd y plantos bach annwyl ma sydd yn gwrando ar ei mham (i ryw hyd)  wedi troi fewn i monosyllabic, techno addicts, ac fydd hi rhy hwyr i wneud dim byd amdano. Felly roedd angen plan!

Ers rhai blynyddoedd nawr , mae  gen i ryw dynfa tuag at ddŵr – not the drinking kind – ond llynnoedd, afonydd, moroedd. You get the picture ? (Ella rhywbeth i wneud efo bod yn Pisces? Hmm? Anyway, I digress) Felly wrth awgrymu i Ed y gŵr, ar plant i gytuno i gwblhau llwybr arfordir Môn i gyd fel prosiect teulu 2012 – roedd yr hadyn wedi ei blannu.

Mae rhaid i mi gyfaddef, i gychwyn, toedd gan y tri aelod arall o deulu Thomas ddim yn agos at yr run lefel o frwdfrydedd a oedd yn byrlymu ynof i. Felly, wrth gynnig ein bod ni yn gwahodd ffrindiau i ymuno â ni, gwirionodd y plant, ac roedd hi yn 3 against 1 i fi.

Mae Rhys a Megan wedi dod yn dipyn o fêts gydag Ifan a Gwenno (teulu Pritchard) trwy fod yn aelodau o Côr Ieuenctid Môn (o dan arweiniad y dalentog Mari P) felly roedd unrhyw esgus i gael bod yn eu cwmni nhw yn rhoi gwên fawr ar eu hwynebau –  so far so good!

Felly, i ddod a ni at heddiw, mae na ddwy daith wedi cymryd lle hyd yn hyn. Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn trio ychwanegu dipyn o sylwadau ar y blog am ein hanturiaethau. A fel ddywedodd Mari, heintus iawn ydi o, fedra’i ddim credu gymaint o hwyl rydym wedi ei gael yn barod …

Mae’r cymysgedd o awyr iach, sgwrsio, chwerthin (a’r wers ddaearyddiaeth wythnosol gan Gary!) wedi bod yn fwy o bleser na allwn fyth wedi ei ddychmygu. Ac yn lle clywed y plant yn swnian “Ohh Maaaam oes rhaid i ni fynd eto??”  Dwi’n cael pedwar o “Tweens” yn byrlymu fyny ataf, gyda bochau mawr coch ar ddiwedd y daith p’nawn Sul yn bloeddio gweiddi “ Lle ‘da ni’n mynd wythnos nesa ta? “ “Yda chi’n gaddo bod ni’n cael mynd – hyd yn oed os ydi hi’n bwrw?”

Wel, sôn am sioc, bois bach … ac yn dangos i mi nad oes yr un gadget ffansi  yn gallu rhoi’r run un pleser i blant, na tynnu pâr o sgidiau cerdded ymlaen, rhoi rhyddid iddynt ddringo coed, neidio mewn afonydd, sgimio’r Fenai gyda cerrig a throedio caeau mwdlyd. Ac hyn i gyd wrth sugno fewn yr olygfeydd syfrdanol o’n arfordir, a’r byd natur trawiadol sydd o’n cwmpas….

I chi gael dallt – dwi’n teimlo reit smug efo fy hyn acshyli … that is what I call a plan!!

Felly tan y tro nesa … hwyl

Ffigyrau dwbwl?

Roedd y sylw adawyd ar ein blog gan Wynn ddoe yn dweud “dal ati dim ond 100 milltir i fynd” wedi gwneud i mi feddwl … “o blymin heck!!”

Hyd yma ‘da ni wei mwynhau dwy daith gerdded a dau brynhawn hyfryd, ond dim ond 10 milltir ‘da ni wedi gerdded. A bod yn onest, ‘da ni ddim yn siwr iawn os yda ni hyd yn oed wedi cyrraedd y ffigyrau dwbwl eto! Bydd rhaid cael y map allan a mesur yn iawn … mae’r pethau ‘ma yn bwysig wyddoch chi!

Felly er mwyn trio codi’n calonnau ‘dwi wedi llunio graffeg bach i’w osod yn y bar ochr – gan ddefnyddio logo’r Llwybr Arfordirol – i ddangos faint ‘da ni wedi’w gerdded … a faint sydd ar ôl!

Bydd y saeth melyn yn llenwi fel ein bod ni’n ychwanegu i’n milltiroedd – fel ‘da chi’n gweld, dim ond cornel fechan o felyn sydd ar y saeth ar hyn o bryd!!

Oriel: Moel-y-don i’r Sŵ Môr

Moel-y-don i’r Sŵ Môr

Man cychwyn: Maes Parcio Moel-y-don (SH 518 677)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo a Nel
Amser: Dydd Sul 15 Ionawr: 1400 – 1540
Tywydd: Heulog
Pellter: 3 milltir

Er mai Ceri oedd i fod i gymryd yr awenau yr wythnos yma, fi wnaeth y penderfyniad i chwilio am lwybr ar hyd arfordir de’r ynys ar ôl i ni brynu map newydd – dim bod Ceri yn poeni rhyw lawer, dwi’n meddwl bod hi wedi derbyn fy mod i’n dipyn o ‘control freak‘!

Roedd na aelodau newydd i’r tim yr wythnos yma hefyd. Roedd Robin (neu Tosh i’w ffrindiau) wedi trydar yn ystod yr wythnos ei fod o’n ffansi ymuno yn Prosiect 2012 … er dwi’n amau’n fawr iawn bod Sonia – gwraig Tosh – yn ymwybodol o’r cynllun i gwblhau’r llwybr!

Yn ogystal â Tosh a Sonia, roedd ‘na ddau arall ar y daith brynhawn Sul hefyd – Carlo, ci Tosh a Sonia – a Nel, ci teulu Thomas. Yn anffodus, roedd ‘na fwy o ffraeo a checru rhwng Carlo a Nel na rhwng unrhyw un o aelodau eraill y tîm, ac mae hynny’n cynnwys y ddau frawd a chwaer!

Roedd Mari wedi paratoi cawl swmpus i bawb oedd ar y daith … wel, a bod yn onest, roedd ‘na ddigon o gawl i fwydo hanner Brynsiencyn … a gyda Beryl (VW Camper teulu Pritchard) yn dod ar ei thaith cyntaf, cafodd pawb wledd o fwyd ym maes parcio Moel-y-don cyn cychwyn!

 

Cychwyn o Foel-y-don

Cychwyn o Foel-y-don

Mae angen dringo yn ôl i fyny’r lôn o’r maes parcio er mwyn cychwyn ar y daith, ond ar ôl cerdded ar hyd llwybr tarmac am rhyw filltir, mae’r llwybr yn fforchio i’r chwith ac i’r dde – y llwybr i’r chwith sydd yn mynd ar hyd lan yr Afon Menai a hon ydi’r llwybr byddwn i’n ei argymell gan fod y cymal ar hyd y traeth caregog yn un hyfryd.

Gyda chanolfan chwaraeon dŵr cenedlaethol Plas Menai ar ochr draw’r Fenai, roedd sawl cwch hwylio i’w gweld yn rasio i fyny ac i lawr yr afon ac mae’n hawdd gweld pam fo’r rhan yma o’r byd mor boblogaidd gydag ymwelwyr … ac mae’n syndod pam ein bod ni’n cymryd ein milltir sgwâr mor ganiataol.

Wedi i’r cwn drochi yn y dŵr … wel, Nel aeth i nofio, doedd Carlo ddim mor keen … ac ar ôl cystadleuaeth sgimio cerrig mae’r llwybr yn troi am y caeau uwchben yr afon heibio i fferm Llan Idan. Peidiwch a phoeni eich bod chi wedi colli’r llwybr, mae’r gamfa ym mhen draw’r cae, ond byddwch yn ofalus lle ‘da chi’n troedio – mae’r cow pats yn rhai fresh iawn!

Wrth gerdded trwy’r caeau tu ôl i Blas Trefarthen mae pen y daith yn amlwg yn y pellter, ac mae’r golygfeydd tuag at Gaernarfon ar ochr draw y Fenai yn odidog … a thra bo Mari wedi casglu sawl rwdan o’r cae ac wedi fy ngorfodi i’w llusgo adref yn y rucksack, dwi’n amau’n gryf y bydd hi’n ei defnyddio i goginio!

Yn anffodus, doedd ‘na’m tafarn i ni yr wythnos yma, dim ond panad sydyn yn Beryl … ac roedd rhaid yfed y banad ar ôl i Ceri fynd i gymaint o drafferth i olchi’r cwpanau yn nŵr yr afon!!

 

Oriel: Cylchdaith Rhoscolyn

Cylchdaith Rhoscolyn

Man cychwyn: Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn (SH 268 757)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno
Amser: Dydd Sul 08 Ionawr: 1500 – 1620
Tywydd: Cymylog
Pellter: 5 milltir (2½ filltir ar hyd y llwybr)

Felly dyma fwrw ati efo’r cymal cyntaf o Prosiect 2012 a gan bo fi wedi fy nethol fel team leader Teulu Pritchard fi oedd â’r fraint o ddewis pa ran o’r llwybr oedd yn cael ei gerdded gyntaf.

Gyda 125 milltir o lwybr i’w droedio, dyma feddwl mai’r lle gorau i ni gychwyn fyddai ar y stepen drws ac ar lwybr ‘da ni, fel teulu, wedi ei droedi sawl tro, sef y cymal o Eglwys Santes Gwenfaen yn Rhoscolyn tuag at Bwa Du ac ar hyd yr arfordir yr holl ffordd i draeth Rhoscolyn.

Wrth gwrs, y peth gorau am ddewis y darn yma o’r llwybr yw bod modd gorffen y daith arbennig yma yn nhafarn y White Eagle!

Mae’r Teulu Pritchard yn cerdded y rhan yma o’r llwybr o leiaf dwywaith y mis a’r tro diwethaf i ni ei throedio oedd yn ystod y gwynt a’r glaw ar brynhawn Nos Calan, ond er eu bod nhw’n byw mor agos, doedd y Teulu Thomas erioed wedi bod ar hyd y llwybr arbennig yma.

Cyn cychwyn ar y daith, mae’n rhaid cael ychydig bach o hanes yr eglwys a’i henw … be ‘da chi’n feddwl “nagoes“?

Merch Pawl Hen o Fanaw oedd Gwenfaen ac, yn ôl y chwedl, llwyddodd i ddianc rhag y derwyddon oedd yn ei herlid trwy ddringo creigiau Rhoscolyn. Yn anffodus iddi hi, fe ddaeth y llanw i mewn, ond cafodd ei chludo oddi yno gan angylion, a dyna pam y gelwir y bae yn Porth Saint.

Rwan eich bod chi’n gwybod bach o hanes yr eglwys, gallwch gerdded yn eich blaenau tuag at fferm Tywirdeen lle mae’r llwybr yn eich tywys ar hyd y caeau ac allan tuag at Bwa Gwyn a Bwa Du.

Heibio i’r ddau fwa mae cofeb i Tyger y ci dewr lwyddodd i achub bywyd pedwar o longwyr ar ôl i’w llong ddryllio yn erbyn creigiau Maen Piscar. Er achub y llongwyr, bu’r ci bach farw, ond er mwyn dangos ei werthfawrogiad, fe dalodd capten y llong am gofeb i’r ci gyda’r geiriau TYGER, September 17th, 1819.

Ymlaen tuag at Porth Gwalch mae Ffynnon Gwenfaen, sef ffynnon hynafol syd wedi ei suddo i’r tir gyda sedd ym mhob cornel. Credir fod modd gwella salwch meddwl tryw daflu dwy garreg wen i’r pwll dŵr yma.

Beth bynnag, dyna ddigon o wers hanes am y tro! Ar ôl esgyn i frig y copa ger cwt Gwylwyr y Glannau mae’r llwybr yn disgyn yn ôl i lawr trwy’r caeau ac heibio i’r tai mawr crand at lan y môr Rhoscolyn.

Ar ôl cyraedd y traeth, dim ond cam a naid sydd i fynd nes bo’r peint cyntaf ‘na yn cael ei dollti ar far y White Eagle … mynhewch!