Archif y blog

Oriel: Llyn Rhos Ddu i Falltraeth

Llyn Rhos Ddu i Falltraeth

Man cychwyn: Maes Parcio Llyn Rhos Ddu (SH 426 647)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo a Nel
Amser: Dydd Sadwrn 28 Ebrill: 1200 – 1655
Tywydd: Sych ond gyda gwynt cryf ar adegau
Pellter: 9½ milltir

Ar ôl y daith fawreddog ar hyd arfordir y gogledd ar ddechrau’r mis, roedd hi’n amlwg bod criw Crwydro wedi torri ein danedd ar y teithiau gymharol fyr a bellach yn barod am deithiau hirach.

Penderfynwyd y byddwn ni’n dychwelyd i dde’r ynys er mwyn cwblhau’r daith allan am Ynys Llanddwyn gan fod cŵn wedi eu gwahardd oddi yno rhwng 1 Mai a diwedd mis Medi … a doedden ni ddim am i Carlo a Nel gael colled, nagoedd!

Maes parcio Llyn Rhos Ddu oedd y man cychwyn – lle ddaeth y daith o’r Sŵ Môr i ben yn ôl ym mis Ionawr – a’r nod oedd cyrraedd Malltraeth a pheint yn y Joiner’s Arms mewn pryd i wylio’r sgôrs pêl-droed yn cyrraedd!

Dwi’n siwr fod pob un o’r criw ‘di bod i Ynys Llanddwyn sawl tro – er fod Ed yn trio deud bod na bron i 30 mlynedd ers iddo fod yno – ond mae’n rhaid i ni gwblhau pob cam o’r llwybr gyda’n gilydd.

A pheth arall sy’n hyfryd am gerdded y llwybr yma, ydi’r cyfle i weld a cherdded ffyrdd cyfarwydd ond ar hyd llwybrau anghyfarwydd – tydw i erioed wedi cyrraedd Traeth Llanddwyn ar hyd y llwybr o Lyn Rhos Ddu o’r blaen.

Yn wahanol i’n teithiau eraill, roedd ‘na lwyth o bobl ar yr un llwybr â ni … wel, am y rhan cyntaf o’r daith ar hyd Traeth Llanddwyn ac Ynys Llanddwyn beth bynnag … mae Llanddwyn yn le poblogaidd!

Doedden ni ddim yn rhy siwr os oedd y llwybr o amgylch Ynys Llanddwyn ei hun yn rhan swyddogol o’r Llwybr Arfordirol ond gan ei fod yn rhan mor hyfryd o’r byd dyma benderfynu gerdded draw at fythynod y peilotiaid a’r Tŵr Mawr beth bynnag.

Ar ôl gadael yr Ynys mae na ddau ddewis o lwybr i’w ddilyn tua’r gorllewin a chob Malltraeth – un ar hyd Traeth Penrhos a’r llall trwy’r goedwig – ar ôl pleidlais sydyn* fe benderfynwyd y byddwn ni yn mynd ar hyd y traeth.

Yn anffodus i ni roedd y gwynt yn dod yn syth i’n hwynebau ac roedd y tywod yn chwyrlio o’n hamgylch wrth i ni geisio cyrraedd trwyn Traeth Penrhos a’r Morfa Heli fyddai’n ein harwain yn ôl tua’r goedwig!

Yr unig ffordd i ddwyn perswâd ar y plant (a Sonia!) i beidio cwyno ac i’w sicrhau ein bod ni’n agosau at ddiwedd ein taith oedd i bwyntio at y tai gwyn yn y pellter trwy’r cwmwl tywod a’u sicrhau mai’r Joiner’s Arms oedd un o’r tai … wrth gwrs, doedden ni ddim am ddweud fod angen i ni droi yn ôl i’r goedwig am rhyw ddwy neu dair milltir arall cyn bod ni’n cyrraedd y tai gwyn!

Ar ôl gadael y twyni tywod roedd y daith trwy’r goedwig yn un digon pleserus ar hyd lonydd y Comisiwn Coedwigaeth, ac ar ôl seibiant i gael panad a bechdan … a gwagio’r tywod o’n esgidiau … dim ond y darn olaf o’r llwybr sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd fawr oedd o’n blaenau.

Ar ôl croesi Cob Malltraeth roedd tafarn y Joiner’s Arms a siop chips Malltraeth yn fanna o’r nefoedd … yn enwedig ar ôl clywed ein bod ni wedi cerdded am naw milltir a hanner … dwy filltir a hanner yn hirach nag yr oedden wedi ei feddwl!

‘Di peint o Guinness erioed wedi blasu mor neis!

* [… mae’n rhaid i mi gofnodi’n fan hyn mai Mari oedd â’r bleidlais olaf, felly hi sydd ar fai am ein taith Lawrence of Arabaidd yn syth i wyneb y gwynt a’r storm tywod ..!]

 

Teclyn ffansi Tosh

GPS Llyn Rhos Ddu i Malltraeth

GPS Llyn Rhos Ddu i Malltraeth

Yn ôl teclyn ffansi GPS Tosh, fe gerddon ni 9.7 milltir ddoe … does na’m rhyfedd fod pawb yn cwyno erbyn y diwedd felly nagoes!

 

Oriel: Y Sŵ Môr i Lyn Rhos Ddu

Y Sŵ Môr i Lyn Rhos Ddu

Man cychwyn: Man Parcio ger y Sŵ Môr (SH 479 652)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo a Nel
Amser: Dydd Sul 22 Ionawr: 1330 – 1605
Tywydd: Cymylog ond sych
Pellter: 4½ milltir

Ar ôl sawl sgwrs a sawl cynllun, dychwelyd i ddiwedd taith yr wythnos diwethaf wnaethon ni brynhawn Sul er mwyn cwblhau’r cymal o Foel-y-don yr holl ffordd i Lyn Rhos Ddu rhwng Dwyran a Niwbwrch.

Cyn i unrhyw un arall ddechrau cwyno – oedd roedd y teulu Pritchard yn hwyr ddydd Sul … hanner awr yn hwyr (nid awr fel roedd rhai yn mynnu!) … ac ydan, mi ryda ni’n addo bod ar amser o hyn allan! Mae’n debyg fy mod i’n gosod targedau amser afrealistig i’r teulu ..!

Beth bynnag, yn ôl at y daith ac mae’n siwr mai’r rhan yma o’r llwybr sydd yn troedio bellaf oddi ar yr arfordir ei hun, yn wir, mae ‘na ddarnau o’r cymal yma o’r llwybr lle mae’n anodd gweld yr arfordir o gwbwl!

Ar ôl gadael y Sŵ Môr mae’r llwybr yn dilyn lan y môr heibio i cyn dafarn y Mermaid Inn ac heibio i hen byst pren yr amddiffynfa arfordirol – sy’n gwneud testun gwych ar gyfer ffotograff artistig … wel, dyna ydi fy esgus i am dreulio cymaint o amser yn ceisio tynnu’r llun gorau posib, tra bo pawb arall wedi hen ddiflannu i fyny’r traeth!

A tra bo fi’n ceisio bod y David Bailey nesaf, roedd y plant wedi dod o hyd i wrthrych llawer gwell ar gyfer ffotograff – morfil oedd wedi marw … ac yn ôl ei oglau a’i olwg, roedd o wedi marw ers sbel!

Wrth droi am bentref Dwyran, mae’r llwybr yn gadael lan y môr ac yn dilyn y lôn – sydd yn tipyn o sioc ar ôl cymaint o filltiroedd ar lwybrauy cyhoeddus ar draws gaeau a thraethau – ond ar ôl rhyw filltir mae’r llwybr yn troi yn ôl tua’r arfordir ac ar draws gaeua … a sawl camfa. Mae’r cymal yma o’r llwybr yn cael ein pleidlais ni am i) y nifer fwyaf o gamfeydd a ii) y nifer mwyaf gwahanol o gamfeydd!

Doedd Nel ddim yn keen ar y camfeydd uchel … wel a bod yn onest, doedd Ceri ddim chwaith … ond doedd hynny ddim byd o gymharu efo ymateb y ddau gi i’r cerrig croesi ar draws yr Afon Braint.

Tra bo pawb arall wrth eu boddau efo’r cerrig croesi – yn wir, buaswn i’n mynd mor bell a dweud mai dyma uchafbwynt y prosiect hyd yma – doedd y cŵn ddim yn hapus o gwbwl gan geisio nofio ar draws yr afon yn hytrach na stryffaglu ar draws y cerrig croesi!

A sôn am stryffaglu, mi na’i sgwennu cofnod arall i drafod y stryffaglu a’r straffîg o geisio tynnu llun y 10 ohonnom ni ar ben y cerrig croesi – digon yw dweud na fyddwn i’n trafferthu Usain Bolt mewn ras dros 100m!

Beth bynnag, ar ôl croesi’r afon, mae’r llwybr yn troi tuag at y ffordd fawr – yr A4080 rhwng Dwyran a Niwbwrch – cyn cyrraedd maes parcio Llyn Rhos Ddu a’i gerfluniau trawiadol o foresg. Ar pob un o frigau’r cerflun mae ‘na enw neu ddywediad – ‘da ni eto i ddeall pam, ond roedd yn destun sgwrs digon difyr dros banad cynnes cyn i ni hel ein pac am adref!

Rhoi mewn i’r pwysau!

Wel, wedi ambell her am nad oeddwn wedi gwneud unrhyw ymdrech i gyfrannu tuag at y blog, dyma fy nghofnod cyntaf o’n taith o amgylch Ynys Môn.

Yn gyntaf rhaid i mi gyfaddef na dydw i’n un am gadw cofnodion nac am flogio felly pur debyg na byr fydd fy nghofodion. Ond, rwyf yn fwy na balch o gael rhannu rhywfaint o’n helyntion gyda phawb sydd a diddordeb yn ein teithiau ni, yn enwedig drwy’r lluniau dwi wedi ei cymeryd hyd yn hyn. Yma cewch galsgiad o luniau o’n dwy daith gyntaf sydd wedi mynd a ni o Foel y Don i gyrion Niwbwrch.

Tyda ni ddim wedi mynd yn bell hyd yn hyn, ond pan mae’r prif drefnydd yn troi i fyny bron i awr yn hwyr i gychwyn y teithiau, mae’n anodd cyflawni yr hyn oedda ni wedi fwriadu! (Sori Gari!!! 😉 )