Archif y blog

Oriel: Porth Amlwch i Gemaes

Gwaith Brics Porth Wen

Gwaith brics Porth Wen

Gwaith brics Porth Wen

Ar y daith gerdded rhwng Porth Amlwch a Chemaes mae modd gweld un o safleoedd diwydianol hanesyddol Ynys Môn wrth basio hen waith brics Porth Wen.

Mae’n warthus i feddwl, er fy mod wedi byw ar yr Ynys am y rhan helaeth o fy mywyd … ac wedi byw am gyfnod yng Nghemaes, cwta dwy filltir o Borth Wen … nad oeddwn i yn ymwybodol o fodolaeth yr hen waith brics!

Felly dyma fwrw ati i ddarganfod mwy am y safle er mwyn addysgu fy hun … ac Ifan, sydd wedi bod yn holi am y lle ers ddydd Gwener!

Sefydlwyd y gweithle yn y 1850au gan fod cyflenwad anferth o fwyn silica yn y graig cwarts gerllaw a chan fod brics silica yn gallu gwrthsefyll gwres tanbaid, roedd ‘na alw mawr amdanynt gan y diwydiant dur er mwyn adeiladu ffwrnesi ac odynau.

Mae’n rhaid talu teyrnged i ddyfeisgarwch pobl yr oes Fictoraidd lwyddodd i harnesu grym disgyrchiant i brosesu’r gwaith. Roedd y mwyn yn cael ei gloddio ar y penrhyn uwchben y gwaith cyn disgyn i lawr i droed y clogwyn lle roedd y brics yn cael eu siapio, eu sychu a’u tanio yn yr odynau.

Yn wahanol i Fynydd Parys, lle roedd y copr yn cael ei gludo i Borth Amlwch, penderfynwyd adeiladu harbwr fechan ym Mhorth Wen er mwyn cludo’r brics yn syth allan o’r gweithle.

Ond, er safon y brics, roedd sawl perchennog yn gwrthod caniatau i’w llongau angori yn yr harbwr oherwydd y peryglon o fod mewn harbwr mor fychan pan fo tywydd garw’n bygwth.

Erbyn dechrau’r Rhyfel Mawr roedd safon y gwaith wedi dirywio hefyd – yn ôl y chwedl leol, roedd hyn oherwydd anghydfod rhwng perchennog y gwaith a’i giaffar – a chyn diwedd 1914, roedd y gwaith wedi cau.

Bron i gan mlynedd yn ddiweddarach, mae sgerbwd y gweithle yn parhau i frwydro yn erbyn yr elfennau a chyda’r bae yn llawn o hen frics sy’n prysur erydu’n ôl i’w cyflwr gwreiddiol, mae’r olygfa yn un hynod o drawiadol sydd werth pob cam o’r daith o Borth Amlwch!

Porth Amlwch i Gemaes

Porth Amlwch i Gemaes

Man cychwyn: Porth Amlwch (SH 452 935)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno, Robin, Sonia … a Carlo
Amser: Dydd Gwener 6 Ebrill: 1200 – 1650
Tywydd: Cymylog gydag ychydig o law mân
Pellter: 7½ milltir

Mae hi ‘di bod yn fis prysur iawn i griw Crwydro … hynny ydi, yn fis o wneud perthau eraill pob penwythnos fel bod taith gerdded ddim ‘di bod yn bosib, ond o’r diwedd fe gawsom ni gyfle i fynd allan ac ymestyn y coesau unwaith eto ddydd Gwener.

Ar ôl tair cymal o rhyw dair neu bedair milltir, roedd hi’n amser i ni wneud taith mymryn hirach … a mymryn mwy heriol … felly dyma fwrw ati i wneud y cymal mwyaf gogleddol o’r llwybr rhwng Porth Amlwch a Chemaes.

Canolfan Treftadaeth Porth Amlwch a’i harddangosfa o’r gwaith adeiladu llongau a mwyngloddio copr oedd ein man cychwyn ac roedd ‘na arwydd o’r hyn oedd i ddod wrth i ni esgyn o’r harbwr bach i fyny’r llwybr tua copa Trwyn Penwaig – hynny ydi … llwybrau yn mynd am i fyny … a’r ffaith i fi a Ceri cael ein gadael ar ôl wrth dynnu lluniau!

Ar ôl cerdded heibio i hen weithdy Octel mae’r llwybr yn troi yn ôl tua’r arfordir tra bo’r sgwrs yn troi at ffwlbri caniatau cynllunio’r fath erchyllbeth ar arfordir mor drawiadol!

Mae’r rhan agoriadol yma o’r llwybr yn un digon hamddenol wrth iddi droelli a dilyn patrwm y clogwyni tuag at bentref Porth Llechog, lle’r roeddem ni wedi penderfynu y byddai’r bechdanau’n cael eu hagor!

Un peth hyfryd am gerdded y llwybr gyda mapiau OS ydi darganfod enwau’r ogofau, y trwynau a’r holl faeau ar yr arfordir. Cyn cyrraedd Porth Llechog fe gamo’n ni heibio i Borth Offeiriaid (heb ddweud pader), Pwll y Tarw ac Ogof y Wennol.

Ond Pwll y Merched a Thraeth Dynion oedd y ddau fae lwyddodd i ddal fy sylw … dwn i ddim beth ydi tarddiad enwau’r ddau fae nac ychwaith pam fo’r dynion a’r merched wedi cael traeth ar wahân, er wedi dweud hynny, roedd y sgwrs gafodd y merched ar y rhan cyntaf y daith heddiw yn ddigon i wneud i mi fod eisiau nofio ar fy ben fy hun hefyd ..!

Beth bynnag, ar ôl bechdan, mefus a darn mawr o siocled yr un, roedd pawb yn barod i wynebu ail ran y daith ac os oedd y rhan cyntaf cyn cinio yn ddigon hamddenol, roedd y cymal rhwng Porth Llechog a Chemaes yn un dra gwahanol.

Dwn i ddim pwy ddywedodd erioed fod Ynys Môn yn wastad … ond roedden nhw’n dweud celwydd noeth!

Mae’r llwybr ogleddol yn fwy anghysbell na’r un ‘da ni eisoes wedi ei droedi ger glannau’r Fenai ac fel ddywedodd Ceri: “Dim ond môr ‘da ni’n weld heddiw” … wel ia, ar lwybr arfordirol, pwy ‘sa di meddwl y fath beth ynde!

Yn ogystal â bod yn anghysbell, mae’r llwybr yn un sy’n esgyn a disgyn nes bod rhywun yn teimlo fel byddin Dug Caer Efrog! Ar ôl dringo’r clogwyn  … disgyn yn ôl yr ochr arall … codi’n ôl … disgyn yn ôl … codi … disgyn … codi … disgyn … mae’r pen-gliniau’n stiff iawn erbyn heno!!

Chwarae teg i Megan a Gwenno am edrych ar fy ôl i wrth i ni esgyn i fyny’r set olaf o steps wrth Ogof Gynfor, dwi ddim yn meddwl y buaswn i wedi cyrraedd y top heb eu help!

Mae ‘na ambell i olygfa annisgwyl ar y daith yma hefyd gyda hen weithfeydd brics Porth Wen a Phorth Llanlleiana yn ogystal â thŵr gwylio Llanlleiana – y pwynt mwyaf gogleddol ar y llwybr, os nad yng Nghymru.

Ac wrth igam-ogamu i lawr i gyfeiriad Cemaes mae’r llwybr yn mynd heibio i Eglwys St Badrig, eglwys gafodd ei hadeiladu gan Padrig yn y pumed ganrif. Yn ôl y sôn roedd o ar y ffordd i weld St Columba ar Ynys Iona cyn mynd i Iwerddon, ond cafodd ei long ei ddryllio ar Ynys Badrig oddi ar ogledd Ynys Môn a phenderfynodd godi eglwys.

Ar ôl cyrraedd diwedd y daith ym maes parcio lan-y-môr Cemaes, roedd pawb wedi blino yn ofnadwy, ond myn diawl i roedd na deimlad anferth o falchder o fod wedi gorffen y cymal mwyaf heriol o’r llwybr!