Archif y blog

Twrci oer ..!

Mae’n od sut bod rhywbeth yn gafael yn dydi? Hyd at dechrau’r flwyddyn yma, byddwn ni’n mynd i gerdded tua unwaith y mis fel teulu, ac yn amlach na pheidio, byddwn ni’n mynd am dro ar hyd yr un llwybr yn ardal Rhoscolyn.

Ifan ar y Llwybr Arfordirol ... blynyddoedd yn ôl!

Ifan ar y Llwybr Arfordirol ... blynyddoedd yn ôl!

Yn wir, wrth chwilio trwy fy nghyfrif flickr mae ‘na sawl set o luniau o’r darn yma o’r Llwybr Arfordirol – mae na luniau o Rhoscolyn yn y gwanwyn yr holl ffordd trwodd i luniau o Rhoscolyn yn y gaeaf.

Ac fel mae’r llun yma o Ifan yn ifanc iawn yn ei ddangos, ‘da ni wedi bod yn cerdded y darn yma o’r llwybr ers blynyddoedd maith!

Ond erbyn hyn, diolch i Ceri a’r teulu Thomas (a Prosiect 2012) ‘da ni wedi bod yn cerdded yn llawer amlach. ‘Da ni wedi bod allan pob penwythnos ers dechrau’r flwyddyn ac wedi gweld ardalaoedd gwahanol o’r ynys.

Mae bore Sul wedi troi yn fore cynnar yn tŷ ni.

Does ‘na neb yn aros yn y gwely yn hwyr, mae pawb yn codi ac yn sydyn iawn i wneud eu jobsys o gwmpas y tŷ cyn i ni baratoi cinio bach a phacio’r rucksack ar gyfer y daith wythnosol.

Ond, oherwydd trip ysgol Ifan a Rhys i Lanelli dros y Sul a gan bo fi’n gweithio, ni chafwyd taith gerdded dydd Sul diwethaf … a ‘da chi’n gwbod be, ‘dwi ‘di bod ar goll!

Nid yn unig bo fi wedi colli’r awyr iach, y golygfeydd, y sgwrs, y chwerthin, y gwmniaeth a’r tynnu lluniau … ‘dwi hyd yn oed wedi colli jôcs sâl Tosh!

Ac, yn od iawn, ‘dwi wedi colli diweddaru’r blog hefyd – mae hi’n edrych braid yn rhyfedd yma heb gofnod ers wythnos er ein bod ni heb fod allan ar daith gerdded.

Felly er mwyn poblogeiddio’r blog yn absenoldeb unrhyw daith, mae’r plant wedi addo ‘sgwennu cofnod yr un i ni … dim pwysau blantos, ond mae’r darllenwyr yn disgwyl!

 

 

Crwydro, bwyta ac yfed!

Wel dyma’r tro cyntaf erioed i mi sgwennu blog – ac os ydio hanner mor heintus a’r prosiect crwydro hyd yn hyn – yna allai’m disgwyl i neud mwy. Hogan ffarm ydwi yn y bôn ac ers i ni werthu fy nghartref , rhai blynyddoedd yn ôl bellach, mae unrhyw grwydr i gefn gwlad yn falm i’r galon.

Fel hogan ffarm , mae bwyd hefyd yn bwysig pan fo ffrindiau o gwmpas – a dyma dwi am drio ychwanegu i’r blog yma sef blas i chi ar fwydydd a bwytai ar hyd y daith.

Fel teulu, mae taith Rhoscolyn yn achlysur cyson gan fod y ‘White Eagle’ yn dynfa ar ei diwedd. Fy nghyngor i fyddai i wneud y daith hon yn y Gaeaf os am ymwled a’r dafarn arbenig hon (dydi’r lle ddim cweit run fath ym mwrlwm ymwelwyr yr Haf). Diflanodd y gin a tonic cyntaf yn reit handi , cyn sipian Sauvignon Blanc oer a blasus wedyn. Y cwbl yn bartner perffaith i ginio dydd Sul Porc gyda thatws rhôst  a chutney afalau – oedd chydig yn anghyffredin hefo cinio Sul – ond yn neis iawn.

Ar ôl methu penderfynnu pa bwdin i’w gael – dyma fynd am yr opsiwn o gael darn bach o bob un (pudding platter) – difyr iawn ! Ew mi oedd o’n dda ! Mae rywbeth i bawb yn y ‘White Eagle’ – digon o ddewis i’r plant hefyd, ac er ei fod yn ddrud braidd – mae’r olygfa, y bwyd a theimlad  y lle werth bob ceiniog.

Stori wahanol oedd yr ail daith o Moel y Don i Frynsiencyn a hynny oherwydd y rygbi. Gan fod Ifan y mab yn chwarae rygbi tan hanner dydd – dyma benderfynu mynd yn ‘Beryl’ (gweler y lluniau) a chythru ati i wneud cawl i bawb er mwyn i ni gael rywbeth i fwyta cyn cychwyn. Neidio i waelod yr oergell – gafael mewn cenin, nionod, celery a sprouts (‘doedd neb ddim callach!!) chydig o bys o’r rhwegell, stoc llysiau – wizz sydyn hefo’r blender – ac off a ni hefo sosbenaid anferth o gawl gwyrdd blasus (wir yr!!). Dyma ychwanegu bara, ham, shortbread a siocled i’r picnic a dyna ni – gwledd!

Llond sosban o gawl!

Llond sosban o gawl!

Roedd hon yn daith gerdded fendigedig yn cynnwys chydig o bob dim – caeau, llwybrau coediog, lan môr caregog, caeau rwdins, (yn union fel rhai Dyfriar er talwm), giatiau mochyn a dwy gamlas hen ffashiwn.

Roedd gorffen y daith gyda phaned boeth yn Beryl yn glo hyfryd i brynhawn heulog ond oer yn cerdded glan y Fenai. Pawb efo boliau llawn a bochau coch!

Lle nesa hogs? O ia – ma rhaid i mi gofio prynnu ‘hip flask‘ ar gyfer gweddill teithiau y Gaeaf – yn bydd Ed !

 

Oriel: Cylchdaith Rhoscolyn

Cylchdaith Rhoscolyn

Man cychwyn: Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn (SH 268 757)
Ar y daith: Ed, Ceri, Rhys, Megan, Gary, Mari, Ifan a Gwenno
Amser: Dydd Sul 08 Ionawr: 1500 – 1620
Tywydd: Cymylog
Pellter: 5 milltir (2½ filltir ar hyd y llwybr)

Felly dyma fwrw ati efo’r cymal cyntaf o Prosiect 2012 a gan bo fi wedi fy nethol fel team leader Teulu Pritchard fi oedd â’r fraint o ddewis pa ran o’r llwybr oedd yn cael ei gerdded gyntaf.

Gyda 125 milltir o lwybr i’w droedio, dyma feddwl mai’r lle gorau i ni gychwyn fyddai ar y stepen drws ac ar lwybr ‘da ni, fel teulu, wedi ei droedi sawl tro, sef y cymal o Eglwys Santes Gwenfaen yn Rhoscolyn tuag at Bwa Du ac ar hyd yr arfordir yr holl ffordd i draeth Rhoscolyn.

Wrth gwrs, y peth gorau am ddewis y darn yma o’r llwybr yw bod modd gorffen y daith arbennig yma yn nhafarn y White Eagle!

Mae’r Teulu Pritchard yn cerdded y rhan yma o’r llwybr o leiaf dwywaith y mis a’r tro diwethaf i ni ei throedio oedd yn ystod y gwynt a’r glaw ar brynhawn Nos Calan, ond er eu bod nhw’n byw mor agos, doedd y Teulu Thomas erioed wedi bod ar hyd y llwybr arbennig yma.

Cyn cychwyn ar y daith, mae’n rhaid cael ychydig bach o hanes yr eglwys a’i henw … be ‘da chi’n feddwl “nagoes“?

Merch Pawl Hen o Fanaw oedd Gwenfaen ac, yn ôl y chwedl, llwyddodd i ddianc rhag y derwyddon oedd yn ei herlid trwy ddringo creigiau Rhoscolyn. Yn anffodus iddi hi, fe ddaeth y llanw i mewn, ond cafodd ei chludo oddi yno gan angylion, a dyna pam y gelwir y bae yn Porth Saint.

Rwan eich bod chi’n gwybod bach o hanes yr eglwys, gallwch gerdded yn eich blaenau tuag at fferm Tywirdeen lle mae’r llwybr yn eich tywys ar hyd y caeau ac allan tuag at Bwa Gwyn a Bwa Du.

Heibio i’r ddau fwa mae cofeb i Tyger y ci dewr lwyddodd i achub bywyd pedwar o longwyr ar ôl i’w llong ddryllio yn erbyn creigiau Maen Piscar. Er achub y llongwyr, bu’r ci bach farw, ond er mwyn dangos ei werthfawrogiad, fe dalodd capten y llong am gofeb i’r ci gyda’r geiriau TYGER, September 17th, 1819.

Ymlaen tuag at Porth Gwalch mae Ffynnon Gwenfaen, sef ffynnon hynafol syd wedi ei suddo i’r tir gyda sedd ym mhob cornel. Credir fod modd gwella salwch meddwl tryw daflu dwy garreg wen i’r pwll dŵr yma.

Beth bynnag, dyna ddigon o wers hanes am y tro! Ar ôl esgyn i frig y copa ger cwt Gwylwyr y Glannau mae’r llwybr yn disgyn yn ôl i lawr trwy’r caeau ac heibio i’r tai mawr crand at lan y môr Rhoscolyn.

Ar ôl cyraedd y traeth, dim ond cam a naid sydd i fynd nes bo’r peint cyntaf ‘na yn cael ei dollti ar far y White Eagle … mynhewch!