Archif y blog

Oriel: Cylchdaith Sannan

 

Cylchdaith Sannan

sannan
Man cychwyn
: Maes Parcio Canolfan Ymwelwyr Llyn Alaw (SH 373855)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Sadwrn 14 Chwefror, 2015: 1500 – 1715
Tywydd: Sych … ond gwlyb o dan draed
Pellter:  6 milltir

Penderfyniad munud olaf oedd y daith gerdded yma felly yn hytrach ‘na cherdded rhan o’r Llwybr Arfordirol dyma ddewis un o Gylchdeithiau’r Seintiau sydd yn fyrach ac felly’n haws i’w gwblhau cyn i olau dydd ddiflannu – rhywbeth pwysig i’w ystyried yn ystod mis Chwefror!

Mae dau o Gylchdeithiau’r Seintiau yn cychwyn ger Canolfan Ymwelwyr Llyn Alaw … neu’r hyn sy’n cael ei alw’n “Ganolfan Ymwelwyr”, gan mai cwt pren gyda’i ffenestri wedi’i chwalu ydi’r “Ganolfan” bondigrybwyll erbyn hyn … ond o leia’ mae’n le cyfleus i barcio’r car.

Wrth adael y maes parcio mae ‘na arwydd sy’n dangos mai troi i’r dde sydd ei angen ar gyfer Cylchdaith Sannan ac ymlwybro i lawr y lôn fechan. Gan mai cerdded y daith mewn cyfeiriad clocwedd oeddem ni, roedd angen anwybyddu’r arwydd llwybr i’r dde cyn cyrraedd Bodnolwyn Wen a pharhau heibio i Caergwrli a Bryn Sannan cyn troi ar hyd y llwybr gerdded ger bwthyn Bronwen.

Mae’r llwybr yn crwydro ar draws gaeau Bodnolwyn Groes ac os edrychwch tua’r gogledd ar ôl pasio’r ty fferm mae modd gweld cromlech Bedd Branwen … mae’n haws fyth os ‘da chi wedi cofio’ch binocwlars (!) … ond yn anffodus nid oes mynediad cyhoeddus i’r gromlech bellach.

Ar ôl croesi Afon Alaw a chyrraedd caeau Hen Bont mae’n bosib mynd ar goll gan fod fferm Hen Bont wedi ffensio’n gymharol ddiweddar ac mae’n anodd gweld fod y llwybr yn croesi’r cowt … ond wedi dweud hynny, roedd y ffermwr yn ddigon clên i ddod allan a dangos y llwybr i ni!

Ar ôl croesi’r cowt a throi i’r chwith, mae’r llwybr yn troi yn syth i’r dde ac mae’n bwysig cadw i’r dde o’r gwrych er mwyn croesi’r cae a chyrraedd y lôn … peidiwch, da chi, â cherdded trwy’r gors cyn sylwi eich bod wedi mynd y ffordd anghywir ac yna gorfod cerdded yn ôl trwy’r gors!

Er nad yw’n rhan o’r gylchdaith fach yma, mae’n sicr werth ailymuno â’r llwybr wrth gamu dros y gamfa i’r chwith er mwyn ymweld ag eglwys Sant Afran, Sant Ieuan a Sant Sannan.

Mae’r eglwys yn dyddio o’r 14eg Ganrif ond dyw hi heb ei defnyddio ers 1899 a bellach yn dod o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Yr hyn sy’n rhyfeddol, i mi beth bynnag, yw cymaint o Saesneg sydd i’w weld ar y cerrig beddi o ystyried mai beddi o’r 18fed a 19fed ganrif mewn eglwys fechan yng nghanol Ynys Môn ydi rhain.

Ar ôl ymweld â’r egwlys, trowch yn ôl ar hyd y llwybr at y lôn cyn troi i’r chwith tuag at Melin Llynnon.

Mae modd cerdded ymlaen at y Felin am banad a theisen … os ‘da chi’n mynd am dro ar ôl Mawrth 28 … a ddim ar ddydd Gwener (!) … ond troi tuag adref ar hyd y llwybr ger Tyddyn Falog oedden ni yn ei wneud.

Ar ôl croesi’r caeau a cowt fferm Marian, mae’r llwybr yn cyrraedd yn ôl i bentref Elim ac mae angen troi i’r chwith hyd nes dod at y llwybr, sy’n troi i’r dde heibio i fferm Glanalaw ac ar draws y caeau yn ôl i faes parcio Llyn Alaw.