Archif y blog

Swtan i Penrhyn

barclodiad-osMan cychwyn: Swtan (SH 31731 73177)
Ar y daith: Gary a Mari
Amser: Dydd Sadwrn 13 Ionawr, 2017: 1300 – 1500
Tywydd: Sych (ond gwlyb o dan droed!)
Pellter: 6 milltir

Mae hi’n talu i gael ffrindiau da ac felly ar ôl holi Gwen am yr hawl i adael un car yn fferm Penrhyn tra’n cerdded o Swtan i lawr am y de, cawsom gynnig lifft i gychwyn ein taith … ond yn well na hynny, cawsom addewid panad ar ôl cyrraedd y terfyn hefyd!

Roeddem wedi dewis ymuno â’r llwybr yn gymharol agos at fwthyn Swtan; amgueddfa fechan sy’n enghraifft o fwthyn gwellt o’r 16eg ganrif ac sy’n werth ymweld â hi a gallwch fwynhau panad a chacen hyfryd yn y caffi gerllaw cyn cychwyn ar eich taith!

Er yn ddiwrnod sych a braf, roedd y tir yn wlyb iawn mewn mannau yn dilyn wythnos digon stormus o dywydd ac yn ogystal â’r mwd, roedd ewyn y môr fel swigod dŵr golchi llestri yn chwythu dros y creigiau a’r llwybr.

Wrth droi i’r chwith ar ôl camu dros y gamlas mae Porth Swtan i’w gweld yn amlwg. Credir fod tarddiad yr enw Swtan yn dod o’r gair Cymraeg am bysgod “whiting” ond er fod pob Cymro Cymraeg lleol yn gwybod yn union lle mae Porth Swtan, mae’n bur debyg mai “Church Bay” fyddai’r enw mae hyd yn oed y Cymro mwyaf teyrn yn ei ddefnyddio ar y bae.

Daw’r enw Saesneg o’r arferiad gan longwyr o Loegr o ddefnyddio tirnodau amlwg er mwyn dynodi llefydd ar hyd yr arfordir. Gyda thŵr eglwys Rhydwyn i’w weld yn glir o’r môr ger Swtan, roedd yn enw amlwg i’w roi ar y bae prydferth yma.

Yn anffodus, fel y gwelwn ymhellach ymlaen ar y daith, nid “Church Bay” ydi’r unig enw Saesneg i ddod yn enw naturiol gan y Cymry Cymraeg ar yr Ynys ac mae ambell i dŷ sydd wedi eu nodi gydag enwau Cymraeg ar y map Ordanance Survey wedi cael enw newyd Saesneg erbyn heddiw.

Mae’r llwybr yn un amlwg ac yn un rhwydd iawn i’w ddilyn wrth iddo ymdroelli ar hyd ffin gorllewinol y caeau, mor agos a phosib i’r arfordir ei hun, cyn esgyn a disgyn o fae i fae.

Yn wir, daw’r unig ddryswch wrth adael traeth Porth Trefadog. Mae’r llwybr yn arwain at grisiau i lawr i’r traeth ond does dim arwydd ar ben deheuol y traeth eich bod angen cymryd y lôn tu ôl i’r tŷ yn hytrach nac anelu am y creigiau.

Wedi tua 500m mae’r llwybr yn cyrraedd bwthyn Tyn Tywyn, sydd bellach wedi cael enw newydd; Seashore Cottage, ac o fewn tafliad carreg i’r bwthyn mae un o draethau mwyaf poblogaidd Ynys Môn.

Mae’n gywilydd mawr gen i gyfaddef nad oeddwn i hyd yn oed yn ymwybodol mai Porth Tywyn Mawr oedd yr enw ar y traeth rwyf wedi ei hadnabod erioed fel “Sandy Beach”. Mae’r enw Saesneg yma’n cael ei ddefnyddio, am wn i, gan fod Maes Carafanau Sandy Beach wedi ei hadeiladu ar y caeau drws nesaf i’r traeth.

Mae Llwybr yr Arfordir yn torri ar draws y maes carafanau ond peidiwch a chymryd y llwybr i’r chwith sy’n anelu am y siop a’r caffi … oni bai eich bod eisiau panad bach sydyn … ond cymrwch y llwybr sydd yn mynd syth yn ei blaen heibio i’r carafanau.

Er eu bod yn anodd eu gweld, mae arwyddion glas a melyn llwybr yr Arfordir i’w cael ar y maes carafanau ac yn eich arwain yn ôl allan tuag at y llwybr cyhoeddus gan anelu amFaes Carafanau Penrhyn.

Yma daeth ein taith ni ar yr arfordir i ben gan ein bod wedi cael addewid o banad gan Wyn a Gwen yn fferm Penrhyn felly yn hytrach na dilyn y llwybr heibio i Penrhyn, roedden ni yn torri ar draws y maes carafanau ac anelu am y tŷ fferm a thepot o de a thafell o fara brith!