Archif y blog

Bod yn gymdeithasol

Mae’r criw crwydro wedi dod yn fwy-fwy cymdeithasol yn ystod y dyddiau diwethaf ac yn ogystal â grŵp flickr er mwyn rhannu’n lluniau, mae gennym ni gyfrif twitter o’r enw @crwydro.

Byddwn ni wrth ein boddau petae chi’n ein dilyn ni ar Twitter – bydd unrhyw gofnod newydd ar y blog yn ymddangosar y ffrwd Twitter ac mae Ceri wedi addo gyrru lluniau o’n teithiau hefyd … er, wedi dweud hynny, mae hi wedi addo ‘sgwennu blog hefyd, a ‘does ‘na’m golwg o hwnnw eto!

Mae ‘na linc i’r cyfrf twitter ac i’r grŵp flickr ar dop y hafan dalen ar yr ochr dde …

Teulu arall …

Mae’n edrych yn debyg bod ‘na deulu arall yn barod i dderbyn yr her hefyd!